Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Williams  Cyswllt am y Bil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) - Bethan Davies 029 2089 8120

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Peter Black a Rhodri Glyn Thomas, oherwydd eu rôl ar Gomisiwn y Cynulliad. Bydd Eluned Parrot ac Alun Ffred Jones yn dirprwyo ar eu rhan, yn y drefn honno, yn unol â Rheol Sefydlog 17.48.

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd aelodau’r Pwyllgor, y tystion ac aelodau’r cyhoedd i’r cyfarfod.

 

1.2        Dywedodd y Cadeirydd bod ymddiheuriadau wedi dod i law gan Rhodri Glyn Thomas a Peter Black oherwydd eu rôl ar Gomisiwn y Cynulliad, a chroesawodd Elin Jones ac Eluned Parrott, a fu’n dirprwyo ar eu rhan, yn unol â Rheol Sefydlog 17.48.

 

1.3        Nododd y Cadeirydd bod ymddiheuriadau wedi dod i law gan Bethan Jenkins hefyd.

9.30 - 10.20

2.

Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol): Sesiwn Dystiolaeth Cyfnod 1: Bwrdd yr Iaith Gymraeg

Papur 1

          Meirion Prys Jones, Prif Weithredwr 

Gwenith Price, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Strategol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg mewn perthynas â’r Bil.

10:20 - 10:40

3.

Trafod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Gwasanaethau Ariannol

Cofnodion:

3.1 Nododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol, a chytunwyd y byddai’r Clerc yn paratoi adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a fyddai’n cael ei ddosbarthu i’r Aelodau i’w gytuno arno.

Trawsgrifiad