Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - Y Senedd

Cyswllt: Gareth Williams  Cyswllt am y Bil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) - Bethan Davies 029 2089 8120

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

1.1  Cafwyd ymddiheuriadau gan Peter Black a Rhodri Glyn Thomas, oherwydd eu rôl ar Gomisiwn y Cynulliad. Bydd Eluned Parrot ac Alun Ffred Jones yn dirprwyo ar eu rhan, yn unol â Rheol Sefydlog 17.48.

Cofnodion:

1.1.1   Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau, y tystion ac aelodau’r cyhoedd i’r cyfarfod.

1.1.2   Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Rhodri Glyn Thomas a Peter Black ar gyfer eitemau 2 a 3, o ystyried eu swyddogaethau ar Comisiwn y Cynulliad.

1.1.3   Croesawodd y Cadeirydd Alun Ffred Jones ac Eluned Parrott i’r cyfarfod, a oedd yn dirprwyo ar eu rhan, yn unol â Rheol Sefydlog 17.48.

1.1.4   Croesawodd y Cadeirydd Peter Black ar gyfer eitem 4 ar y Bil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru).

09:30 - 10:15

2.

Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol): Sesiwn dystiolaeth Cyfnod 1 - Cymdeithas yr Iaith

Papur 1

          Colin Nosworthy

Ceri Phillips

Osian Rhys

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth am y Bil gan Gymdeithas yr Iaith.

2.2 Cytunodd Cymdeithas yr Iaith i ddarparu gwybodaeth ymchwanegol i’r Pwyllgor.

10:30 - 11.00

3.

Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol): Sesiwn dystiolaeth Cyfnod 1 - Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru

Papur 2

Geraint Wyn Parry, Prif Weithredwr

Berwyn Prys Jones, Cadeirydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth am y Bil gan Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru.

11:15 - 12:00

4.

Sesiwn Breifat: Ystyried y materion allweddol ynghylch y Bil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru)

Gwahoddir y Pwyllgor i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitem 4, yn unol â Rheol Sefydlog 17.42(vi):

 

Caiff pwyllgor benderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod neu unrhyw ran o gyfarfod:

 

(vi) lle mae’r pwyllgor yn cyd-drafod cynnwys, casgliadau neu argymhellion adroddiad y mae’n bwriadu ei gyhoeddi; neu’n ymbaratoi i gael tystiolaeth gan unrhyw berson.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Cytunodd y Pwyllgor i wahardd y cyhoedd o eitem 4, yn unol â Rheol Sefydlog 17.42 (vi), i ystyried materion allweddol ac argymhellion ei adroddiad ar y Bil.

Trawsgrifiad