Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - Y Senedd

Cyswllt: Gareth Williams  Cyswllt am y Bil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) - Bethan Davies 029 2089 8120

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Peter Black a Rhodri Glyn Thomas, o gofio eu swyddogaethau ar Gomisiwn y Cynulliad.

Cofnodion:

1.1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau, y tystion ac aelodau’r cyhoedd i’r cyfarfod.

 

1.1.2 Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Rhodri Glyn Thomas a Peter Black ar gyfer eitemau 2 a 3, o gofio eu swyddogaethau ar Gomisiwn y Cynulliad.

 

1.1.3 Croesawodd y Cadeirydd Alun Ffred Jones ac Eluned Parrott i’r cyfarfod, a oedd yn dirprwyo ar eu rhan, yn y drefn honno, yn unol â Rheol Sefydlog 17.48.

 

1.1.4 Croesawodd y Cadeirydd Peter Black a Rhodri Glyn Thomas i’r cyfarfod ar gyfer eitem 4, sef Ystyried Adroddiad y Pwyllgor ar yr Ymchwiliad i Ddarparu Tai Fforddiadwy.

 

2.

Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol: Sesiwn Dystiolaeth Cyfnod 1 - Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd

Papur 1:

Dr Diarmait Mac Giolla Chriost, yr Uned Ymchwil Iaith, Polisi a Chynllunio

Dr Simon Brooks, yr Uned Ymchwil Iaith, Polisi a Chynllunio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ynghylch y Bil gan Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd.

 

2.2 Cytunodd Ysgol y Gymraeg i ddarparu tystiolaeth ychwanegol i’r Pwyllgor.

3.

Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol): Sesiwn Dystiolaeth Cyfnod 1 - Grwp Swyddogion Iaith

Papur 2:

David Thomas, Swyddog Polisi (Cydraddoldeb a’r Gymraeg), Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Cath Baldwin, Swyddog Iaith, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru

Ffion Gruffudd, Swyddog Iaith, Cyngor Dinas a Sir Caerdydd

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ynghylch y Bil gan Grŵp Swyddogion yr Iaith Gymraeg.

4.

Sesiwn Breifat: Ystyried Adroddiad y Pwyllgor ar yr Ymchwiliad i Ddarparu Tai Fforddiadwy

Gwahoddir y Pwyllgor i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitem 4 o’r cyfarfod yn unol â Rheol Sefydlog 17.42(vi):

 

Caiff pwyllgor benderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod neu unrhyw ran o gyfarfod:

 

(vi) lle mae’r pwyllgor yn cyd-drafod cynnwys, casgliadau neu

argymhellion adroddiad y mae’n bwriadu ei gyhoeddi; neu’n

ymbaratoi i gael tystiolaeth gan unrhyw berson.

 

Cofnodion:

4.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad, yn amodol ar wneud rhai newidiadau iddo. 

5.

Papurau i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Nodwyd y papurau.

 

5.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i ymateb i’w lythyr.

 

5a

CELG(4)-08-12 : Papur 3

 

Gohebiaeth gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal CymdeithasolDarpariaeth annigonnol o doiledau cyhoeddus.

 

Dogfennau ategol:

5b

CELG(4)-08-12 : Papur 4

 

Adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Y goblygiadau iechyd cyhoeddus o ddarpariaeth annigonnol o doiledau cyhoeddusadroddiad ar y dystiolaeth

Dogfennau ategol:

5c

Papur 5

Gohebiaeth ar y Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru)

Dogfennau ategol:

Trawsgrifiad