Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - Y Senedd

Cyswllt: Polisi: Marc Wyn Jones  Cyswllt am y Bil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) - Bethan Davies 029 2089 8120

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Bethan Jenkins a Janet Finch-Saunders. Nid oedd neb yn dirprwyo.

(09.30 - 10.30)

2.

Sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog - y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau

Carl Sargeant AC, y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau

June Milligan, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Llywodraeth Leol a Chymunedau

Owain Lloyd, Dirprwy Gyfarwyddwr Gweithrediadau, Llywodraeth Leol a Chymunedau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd y Gweinidog a’i swyddogion i’r cyfarfod. Bu’r Aelodau’n holi’r Gweinidog.

 

2.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu nodyn am y canlynol:

 

Strwythur y Grŵp Arweinyddiaeth Gwasanaethau Cyhoeddus;

 

Cytunodd y Gweinidog i ysgrifennu at yr awdurdodau lleol sydd heb gwblhau’r broses Setliad Cyflog Cyfartal ac i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am amcangyfrifon yr awdurdodau o’u hamserlenni i wneud hynny;

 

Y wybodaeth ddiweddaraf am rôl newydd Cyngor Partneriaeth Cymru;

 

When applicable an update on the monitoring and outcomes of the Communities First clusters;

 

Update on the progression with the Tier 4 planned proposals and the dual diagnostics issues.

 

2.3 The Chair agreed to send the unasked questions to the Minister for a written response.

(10.30 - 11.30)

3.

Sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog - y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth

Huw Lewis AC, y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth

John Howells, Cyfarwyddwr Tai, Adfywio a Threftadaeth

Kath Palmer, Dirprwy Gyfarwyddwr y Gyfarwyddiaeth Dai

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Huw Lewis AC, Y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth

John Howells, Cyfarwyddwr Tai, Adfywio a Threftadaeth

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

Cofnodion:

4.1  Cytunodd y Pwyllgor i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitem 5.

(11.30 - 12.00)

5.

Ystyried y Materion Allweddol ynghylch y Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol)

Cofnodion:

5.1 Croesawodd y Cadeirydd Alun Ffred Jones i’r cyfarfod, a oedd yn dirprwyo ar ran Rhodri Glyn Thomas, ac Eluned Parrott, a oedd yn dirprwyo ar ran Peter Black, yn unol â Rheol Sefydlog 17.48.

 

5.2 Bu’r Pwyllgor yn ystyried y materion allweddol ynghylch y Bil.

 

5.2 Cafodd yr Aelodau wybod y byddai’r pwyntiau a’r argymhellion y gwnaethant awgrymu eu cynnwys yn yr adroddiad drafft, a bydd y Pwyllgor yn ystyried yr adroddiad yn ei gyfarfod nesaf ddydd Mercher 25 Ebrill.

Trawsgrifiad