Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Polisi: Marc Wyn Jones Legislation: Bethan Davies
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd ymddiheuriadau. |
||
(09.30 - 10.10) |
Ymchwiliad i Uwch Gynghrair Cymru - sesiwn dystiolaeth (drwy gynhadledd fideo) CELG(4)-12-12 – Papur 1 Mel Thomas, Ystadegydd pêl-droed Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd Mel Thomas, Ystadegydd Pêl-droed, i’r cyfarfod. Holodd yr Aelodau’r tyst. |
|
(10.10 - 11.00) |
Ymchwiliad i Uwch Gynghrair Cymru - sesiwn dystiolaeth C.P.D Tref Caerfyrddin CELG(4)-12-12 – Papur 2 Clwb Pêl-droed Dinas Bangor Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd Gareth O Jones, Cadeirydd Clwb Pêl-droed Tref Caerfyrddin, a Gwynfor Jones, Ysgrifennydd Clwb Pêl-droed Dinas Bangor, i’r cyfarfod. Holodd yr Aelodau’r tystion. Cytunwyd y byddai’r cwestiynau nas gofynnwyd yn cael eu hanfon at y tystion i’w hateb yn ysgrifenedig. |
|
(11.00 - 11.30) |
Ymchwiliad i Uwch Gynghrair Cymru - sesiwn dystiolaeth John Loosemore – Cadeirydd annibynnol Corff Trwyddedu Clybiau Uwch Gynghrair Cymru Dim Papur Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd John Loosemore, Cadeirydd Annibynnol Corff Trwyddedu Clybiau Uwch Gynghrair Cymru, i’r cyfarfod. Holodd yr Aelodau’r tyst. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Eitem 6 Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitem 6. |
||
(11.30-11.45) |
Ystyried adroddiad y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Ragolygon ar gyfer Dyfodol y Cyfryngau yng Nghymru Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr adroddiad. |
|
(11.45- 12.00) |
Blaenraglen Waith y Pwyllgor Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn ystyried y flaenraglen waith. |
|
Papurau i'w nodi Cofnodion: Nodwyd y papurau. |
||
CELG(4)-12-12 – Papur 3 – Llythyr gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau yn dilyn y cyfarfod ar 29 Mawrth Dogfennau ategol: |
||
CELG(4)-12-12 - Papur 4 - Llythyr gan y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth Dogfennau ategol: |
||
Trawsgrifiad |