Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Llinos Madeley
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad |
||
(09.15-10.00) |
Ymchwiliad i’r cynnydd a wnaed hyd yma ar weithredu Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser Llywodraeth Cymru: trafod yr adroddiad drafft Cofnodion: 1.1
Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft ar ei ymchwiliad i'r cynnydd a wnaed hyd
yma ar weithredu Cynllun Cyflawni Canser Llywodraeth Cymru a chytunodd arno, yn
amodol ar fân newidiadau. Cytunodd hefyd ar y dull a gaiff ei ddefnyddio i
lansio'r adroddiad. |
|
(10.00) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 2.1 Cafwyd
ymddiheuriadau gan Rebecca Evans, Leighton Andrews, Darren Millar, Janet
Finch-Saunders a Lindsay Whittle. Roedd Alun Davies, John Griffiths, Mohammad
Asghar, Andrew RT Davies (bore yn unig) a Paul Davies AC (prynhawn yn unig) yn
dirprwyo ar eu rhan. |
|
(10.00) |
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Nododd
y Pwyllgor y canlynol: ·
cofnodion
cyfarfod 16 Gorffennaf; a ·
gohebiaeth a gafwyd gan y Gweinidog ynghylch: Arolygiaeth Gofal Iechyd
Cymru; yr Adolygiad o Fuddsoddiad mewn Addysg i Weithwyr Iechyd Proffesiynol;
Cynllun Cyflawni Canser Llywodraeth Cymru; a'r Arweinydd Clinigol Cenedlaethol
ar gyfer Gwasanaethau Strôc. |
|
(10.00 – 10.45) |
Ymchwiliad i fynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru: sesiwn dystiolaeth 17 Dr Anna
Kuczynska, Cyfarwyddwr Ardal Meddygon Teulu, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd
a'r Fro Charlotte
Moar, Cyfarwyddwr Cyllid, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro Anthony
Tracey, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gwybodeg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Cafwyd
ymddiheuriadau gan Anthony Tracey. 4.2
Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan Aelodau. |
|
(10.50 – 11.35) |
Ymchwiliad i fynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru: sesiwn dystiolaeth 18 Dr Mark
Vaughan, Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol Cymru Dr Nazia
Hussain, Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol Dr Peter
Horvath-Howard, Cymdeithas Feddygol Prydain Cymru Dr Charles
Allanby, Cymdeithas Feddygol Prydain Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1
Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan Aelodau. |
|
(11.35 – 12.20) |
Ymchwiliad i fynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru: sesiwn dystiolaeth 19 Andrew
Bell, Yr Asiantaeth Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol Sue Evans,
Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru David
Williams, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Cafwyd
ymddiheuriadau gan David Williams. 6.2
Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan Aelodau. 6.3
Cytunodd Sue Evans i roi gwybodaeth ychwanegol i'r Pwyllgor ynghylch cryfderau
a gwendidau'r ymgyrch '3 miliwn o fywydau' yn Lloegr, sef yr ymgyrch y cyfeirir
ato yng nghyflwyniad ysgrifenedig Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau
Cymdeithasol Cymru i'r Pwyllgor. |
|
(12.20) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitemau 8, 10 a 11 Cofnodion: 7.1
Derbyniwyd y cynnig. |
|
(12.20 - 12.30) |
Ymchwiliad i fynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru: trafod y dystiolaeth a gafwyd Cofnodion: 8.1
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd ar gyfer yr ymchwiliad. 8.2
Cytunodd y Pwyllgor i ofyn am wybodaeth ychwanegol gan Gymdeithas Feddygol
Prydain a Choleg Brenhinol y Meddygon Teulu am faint o gyllid refeniw sydd ei
angen, er enghraifft ar gyfer talu costau hyfforddiant, yn ogystal â gwariant
cyfalaf, wrth gyflwyno technolegau newydd. |
|
(13.30 - 15.00) |
Sesiwn graffu gyffredinol a chyllidol gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Iechyd Mark
Drakeford AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Vaughan
Gething AC, y Dirprwy Weinidog Iechyd Andrew
Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Albert Heaney, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ac
Integreiddio Ruth Hussey, Prif Swyddog Meddygol Martin Sollis, Cyfarwyddwr Cyllid Dogfennau ategol:
Cofnodion: 9.1 Cafwyd
ymddiheuriadau gan y Dirprwy Weinidog Iechyd. 9.2
Ymatebodd y Gweinidog i gwestiynau gan Aelodau. 9.3
Cytunodd y Gweinidog i ddarparu rhagor o wybodaeth am gynllun recriwtio
Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ar gyfer y 100 o barafeddygon
ychwanegol a ariannwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru. |
|
(15.00 - 15.20) |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol – y Bil Cyfiawnder Troseddol a'r Llysoedd: trafod yr adroddiad drafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: 10.1
Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
Atodol y Bil Cyfiawnder Troseddol a'r Llysoedd, a chytunodd arno. |
|
(15.20 - 15.30) |
Ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd ("cyffuriau penfeddwol cyfreithlon"): trafod y deithlen ar gyfer gweithgareddau ymgysylltu Cofnodion: 11.1
Cytunodd y Pwyllgor ar deithlen ar gyfer gweithgareddau ymgysylltu mewn
perthynas â'r ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd ("cyffuriau
penfeddwol cyfreithlon"). |