Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

(09.15)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

2.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Lynne Neagle.

 

(09.15 - 10.15)

2.

Ymgynghoriad ar drefniadau gofal a chymorth yn y dyfodol ar gyfer pobl sy’n cael arian o’r Gronfa Byw’n Annibynnol: sesiwn friffio ffeithiol.

Alistair Davey, Dirprwy Gyfarwyddwr - Yr Is-adran Cyflawni Polisïau ar gyfer Plant ac Oedolion, Llywodraeth Cymru  

 

Gareth Griffiths, Pennaeth Ffioedd a Thaliadau Uniongyrchol - Yr Is-adran Cyflawni Polisïau ar gyfer Plant ac Oedolion, Llywodraeth Cymru  

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Gareth Griffiths. Roedd Stephen Gulliford yn dirprwyo ar ei ran.

2.2 Cafodd yr Aelodau sesiwn friffio ffeithiol gan swyddogion Llywodraeth Cymru am yr ymynghoriad ar drefniadau gofal a chymorth yn y dyfodol ar gyfer pobl sy’n cael arian o’r Gronfa Byw’n Annibynnol.

2.2 Cytunodd y swyddogion i ddarparu’r canlynol ar gyfer y Pwyllgor:

·         astudiaethau achos sy’n dangos sut y bydd lefel y gofal a’r gefnogaeth a ddarperir ar hyn o bryd i dderbynwyr y Gronfa Byw’n Annibynnol yn wahanol i’r hyn a ddarperir drwy daliadau uniongyrchol;

·         cadarnhad ynghylch a yw’r cyfrifoldeb dros y GBA wedi’i drosglwyddo o Lywodraeth y DU i Lywodraeth Cymru drwy orchymyn trosglwyddo swyddogaeth; ac

·         eglurhad ynghylch a yw cymhwysedd deddfwriaethol wedi’i drosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i alluogi Llywodraeth Cymru i gyflwyno unrhyw ddeddfwriaeth sylfaenol neu is-ddeddfwriaeth a all fod yn ofynnol yn dilyn trosglwyddo cyfrifoldeb dros y Gronfa Byw’n Annibynnol i Lywodraeth Cymru.

 

(10.15)

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

3.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(10.15 - 10.30)

4.

Ymgynghoriad ar drefniadau gofal a chymorth yn y dyfodol ar gyfer pobl sy’n cael arian o’r Gronfa Byw’n Annibynnol: ystyried y dystiolaeth.

Cofnodion:

4.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

4.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am eglurhad mewn perthynas â’r trefniadau ar gyfer trosglwyddo’r Gronfa Byw’n Annibynnol o Lywodraeth y DU i Lywodraeth Cymru ar 1 Gorffennaf at 2015.

 

(10.30 - 10.50)

5.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Arloesi Meddygol: ystyried y dystiolaeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

5.2 Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad drafft ar ei ystyriaeth o’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Arloesi Meddygol a chytunwyd arno, yn amodol ar fân newidiadau.

 

(10.50 - 11.00)

6.

Sesiwn graffu gyffredinol a chyllidol gyda’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd: paratoi ar gyfer y sesiwn graffu.

Cofnodion:

6.1 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidogion i ofyn am wybodaeth cyn y sesiwn ar 19 Mawrth 2015, a bu’n trafod materion y bydd yr Aelodau am eu codi, o bosibl, yn ystod y sesiwn.