Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Llinos Madeley
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad |
||
(09.30) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Dogfennau ategol:
Cofnodion: 1.1 Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. 1.2 Dirprwyodd Peter Black ar ran Kirsty Williams AC ar gyfer yr eitemau'n
ymwneud â'r Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru). 1.3 Nododd y Cadeirydd gydymdeimlad y Pwyllgor â'r Prif Swyddog Nyrsio, a
oedd yn methu â bod yn bresennol yn y cyfarfod oherwydd profedigaeth yn y
teulu. Cytunodd y Pwyllgor i ddod o hyd i ddyddiad arall i'r Prif Swyddog
Nyrsio ddarparu tystiolaeth ar y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru). |
|
(09.30 - 10.15) |
Y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru): sesiwn dystiolaeth 11 Yr Athro Gillian Leng, y Sefydliad Cenedlaethol dros
Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Ymatebodd y tyst i gwestiynau gan yr Aelodau. 2.2 Cytunodd yr Athro Leng i ddarparu'r canlynol ar gyfer y Pwyllgor:
|
|
(10.15) |
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.0a Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 4 a 12
Chwefror 2015. |
|
Craffu ar Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru: gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth. Cytunodd yr Aelodau i ystyried unrhyw
waith ychwanegol yr hoffent ei wneud mewn perthynas ag adroddiad 'Lle i'w Alw'n Gartref?' y Comisiynydd Pobl Hŷn
- Adolygiad i Ansawdd Bywyd a Gofal Pobl Hŷn sy’n byw mewn Cartrefi Gofal
yng Nghymru, yn ystod trafodaethau'r Pwyllgor ar ei flaenraglen waith ar 5
Mawrth 2015. |
||
Gohebiaeth gan y Pwyllgor Deisebau: P-04-501 Gwneud Canolfannau Dydd ar gyfer pobl hŷn yn ofyniad statudol yng Nghymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.2a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a chytunodd i ysgrifennu at Gadeirydd y
Pwyllgor Deisebau i dynnu sylw at y briff yr oedd wedi'i dderbyn ar 20
Tachwedd, 2014 ar weithredu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)
2014. |
||
(10.15) |
Cynnig o dan Reolau Sefydlog 17.42(vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac ar gyfer eitem 1 y cyfarfod ar 5 Mawrth 2015 Cofnodion: 4.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(10.15 - 10.30) |
Y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru): trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 5.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. 5.2 Yn sgil yr angen i ail-drefnu'r sesiwn dystiolaeth gyda'r Prif Swyddog
Nyrsio, ac er mwyn sicrhau bod digon o amser i ystyried y dystiolaeth a gafwyd
ar egwyddorion cyffredinol y Bil, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y
Pwyllgor Busnes i ofyn am estyniad i'r terfyn amser ar gyfer ei adroddiad
Cyfnod 1. |
|
(10.30 - 11.00) |
Y Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru): trafod y dull o graffu yng Nghyfnod 1 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Trafododd y Pwyllgor ei ddull o graffu ar y Bil yng Nghyfnod 1, a
chytunwyd ar hyn. |
|
(11.00 – 11.10) |
Gwybodaeth ddilynol ar yr ymchwiliad undydd i farw-enedigaethau yng Nghymru: trafod yr allbwn drafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1 Trafododd y Pwyllgor lythyr drafft at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol, a chytunwyd ar y llythyr hwnnw.
|
|
(11.10 – 11.20) |
Ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd ("cyffuriau penfeddwol cyfreithlon"): trafod lansio'r adroddiad Cofnodion: 8.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod ei ddull o lansio ei adroddiad ar sylweddau
seicoweithredol newydd ("cyffuriau penfeddwol cyfreithlon"). |