Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

(09.15 - 10.00)

1.

Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru): ystyried y materion allweddol

Cofnodion:

1.1 Trafododd y Pwyllgor y prif faterion sydd wedi codi wrth ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru).

2.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

2.1 Ni chafwyd ymddiheuriadau

2.2 Dirprwyodd Peter Black ar ran Kirsty Williams AC ar gyfer yr eitem yn ymwneud â'r Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru).

(10.00 - 11.15)

3.

Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru): Sesiwn dystiolaeth 1

Mark Drakeford AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yr Aelod sy'n gyfrifol

David Pritchard, Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu’r Gweithlu 

Kate Johnson, Cyfreithiwr

Mari Williams, Cyfreithiwr

Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru)

Memorandwm Esboniadol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Ymatebodd y Gweinidog i gwestiynau gan yr Aelodau.

3.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu:

·         nodyn am unrhyw asesiad ariannol, y tu hwnt i’r hyn a nodir yn y Memorandwm Esboniadol, a wnaed mewn perthynas â’i gwneud yn ofynnol i gofrestru gweithwyr gofal cartref a gweithwyr cartrefi gofal i oedolion;

·         amlinelliad o’r wybodaeth y disgwylir iddi gael ei chynnwys yn yr adroddiadau am sefydlogrwydd y farchnad leol y bydd yn rhaid i awdurdodau lleol eu paratoi a’u cyhoeddi o dan adran 144B o’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (i’w mewnosod drwy gyfrwng adran 55 o’r Bil);

·         rhyw syniad o’r amserlenni arfaethedig ar gyfer cyhoeddi rheoliadau drafft o dan adran 60(6) a (7) yn ymwneud â gallu Gweinidogion, o dan adran 60, i asesu cynaliadwyedd ariannol darparwyr gwasanaethau.

(11.15)

4.

Papurau i’w nodi

(11.15)

4.1

Cofnodion cyfarfod 11 Mawrth 2015

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1a Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Mawrth. 

(11.15)

4.2

Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru): gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.2a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

(11.15)

4.3

Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru): gohebiaeth gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.3a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

(11.15)

4.4

Ymchwiliad i’r gweithlu Meddygon Teulu yng Nghymru: gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.4a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

(11.15)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o eitem 1 yn y cyfarfod ar 23 Ebrill 2015

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

(11.15 - 11.30)

6.

Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru): trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

6.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

6.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am ragor o wybodaeth am y Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru).

(11.30 - 11.45)

7.

Ymchwiliad i berfformiad y Gwasanaethau Ambiwlans yng Nghymru: trafod y llythyr drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y llythyr drafft i’w anfon at y Dirprwy Weinidog Iechyd ac fe’i derbyniwyd yn amodol ar rai mân newidiadau.