Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

(09.00)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Janet Finch-Saunders.

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Kirsty Williams. Dirprwyodd Peter Black ar ran Kirsty Williams AC ar gyfer yr eitemau'n ymwneud â'r Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru).

1.3 Nododd y Cadeirydd ddymuniadau gorau'r Pwyllgor i Kirsty Williams, a oedd yn absennol o'r cyfarfod oherwydd salwch.  Cytunodd y Pwyllgor i drefnu dyddiad amgen er mwyn  i Kirsty Williams roi tystiolaeth fel yr Aelod sy'n gyfrifol am y Bil Lefelau Diogel Staffio Nyrsio (Cymru).

 

(09.00 - 09.45)

2.

Y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru): sesiwn dystiolaeth 12

Dr Jean White, Prif Swyddog Nyrsio

Fiona Davies, Cyfreithiwr

Helen Whyley, Swyddog Nyrsio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan Aelodau.

 

(09.45 - 10.45)

3.

Y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru): sesiwn dystiolaeth 13

Mark Drakeford AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dr Jean White, Prif Swyddog Nyrsio

Fiona Davies, Cyfreithiwr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan Aelodau.

3.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu nodyn i'r Pwyllgor am ei bwerau cyfarwyddo o dan Adran 12 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.

 

(10.45)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitemau 5, 6 ac 11 o'r cyfarfod.

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(10.45 - 11.00)

5.

Y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru): trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

5.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

5.2     Cytunodd y Pwyllgor i ofyn i fyrddau iechyd lleol am wybodaeth ychwanegol am y trefniadau sydd ganddynt ar waith i reoli'r gofal y maent yn ei gomisiynu gan y sector annibynnol a/neu gan weinyddiaethau eraill (e.e. GIG Lloegr), yn enwedig:

·         a gaiff contractau safonol eu defnyddio ar gyfer trefniadau o'r fath;

·         sut mae byrddau iechyd yn monitro cydymffurfiaeth â'r contractau/cytundebau ar gyfer darparu'r gofal a gomisiynwyd ganddynt.

5.3 Cytunodd y Pwyllgor i ofyn i Gymdeithas Gofal Iechyd Annibynnol Cymru am wybodaeth ychwanegol ynghylch:

·         ei sylw "it is important that should the Bill be extended that this will include all of the Independent Sector not just NHS funded care within the sector"; ac

·         a yw'r diwydiant yn cadw at unrhyw gymarebau staffio ar hyn o bryd ac, os felly, pa gymarebau, i ba raddau y mae cydymffurfio yn cael ei fonitro a chan bwy, a beth yw'r cyfraddau cydymffurfio.

(11.00 - 11.20)

6.

Blaenraglen waith y Pwyllgor.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Bu’r Aelodau'n trafod y flaenraglen waith.

6.2 Cytunodd y Pwyllgor i drefnu rhagor o sesiynau tystiolaeth ar y Bil Lefelau Diogel Staffio Nyrsio (Cymru), gan gynnwys sesiwn gyda Kirsty Williams, yr Aelod sy'n gyfrifol am y Bil, ar 19 Mawrth 2015.

6.3 Cytunodd y Pwyllgor ar ddull ar gyfer casglu tystiolaeth lafar mewn perthynas â gwaith craffu Cyfnod 1 y Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru).

6.4 Nododd y Pwyllgor y flaenraglen waith amlinellol o fis Ebrill i fis Gorffennaf 2015, yn amodol ar drafod ymhellach cais y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ohirio sesiwn gwaith craffu cyffredinol ac ariannol yr haf tan yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

6.5 Nododd yr Aelodau y flaenraglen waith amlinellol ar gyfer gweddill y Pedwerydd Cynulliad, a chytuno i ohirio penderfyniad ynghylch y blaenoriaethau a nodwyd ganddynt yn flaenorol.

 

(13.00 - 13.40)

7.

Ymchwiliad i berfformiad y Gwasanaethau Ambiwlans yng Nghymru: sesiwn dystiolaeth 1

Stephen Harrhy, Prif Gomisiynydd Gwasanaethau Ambiwlans

Yr Athro Siobhan McClelland, Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan Aelodau.

7.2 Cytunodd y tystion i ddarparu'r eitemau a ganlyn i'r Pwyllgor:

·         copi o'r cytundeb dros dro gydag Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ar gyfer 2014-15;

·         syniad bras o'r amserlenni ar gyfer y fframwaith comisiynu, ansawdd a darparu ac, unwaith y bydd yn barod, copi o'r fframwaith.

 

(13.40 - 14.20)

8.

Ymchwiliad i berfformiad y Gwasanaethau Ambiwlans yng Nghymru: sesiwn dystiolaeth 2

Mick Giannasi, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Tracy Myhill, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan Aelodau.

8.2 Cytunodd y tystion i ddarparu'r eitemau a ganlyn i'r Pwyllgor:

·         manylion am y cynlluniau peilot sydd ar waith ledled Cymru i wella gwasanaethau ambiwlans;

·         nifer y galwadau brys Categori A a wnaed yn 2012 , 2013 a 2014, nifer y digwyddiadau y mae'r galwadau hyn yn ymwneud â nhw, nifer y galwadau lle cyrhaeddodd y gwasanaethau brys y digwyddiad, a nifer y galwadau lle cyrhaeddodd y gwasanaethau brys y digwyddiad o fewn wyth munud; 

·         y dyddiadau y cafodd Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ei hymgynghori neu ei chynnwys yn y penderfyniad a wnaed i atal gofal mamolaeth dan arweiniad meddyg ymgynghorol yn Ysbyty Glan Clwyd; a

·         chopi o gynllun gweithredu ar gyfer gwella Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ar gyfer y flwyddyn nesaf.

 

(14.30 - 15.10)

9.

Ymchwiliad i berfformiad y Gwasanaethau Ambiwlans yng Nghymru: sesiwn dystiolaeth 3

Adam Cairns, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Alison Williams, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf

Cofnodion:

9.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan Aelodau.

9.2 Cytunodd y tystion i ddarparu'r eitemau a ganlyn i'r Pwyllgor:

·         manylion ar gyfer y mis diwethaf (Chwefror 2015) am nifer yr ambiwlansys a gyrhaeddodd pob adran damweiniau ac achosion brys yn ardaloedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, ac, os yw'n bosibl, yr orsaf ambiwlansys lle y mae pob un o'r ambiwlansys hynny wedi'u lleoli;

·         manylion am nifer y cleifion sy'n profi oedi wrth gael eu trosglwyddo yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro;

·         manylion am y camau gweithredu y mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn eu cymryd i leihau oedi wrth drosglwyddo cleifion, y gwelliannau y disgwylir eu cyflawni, a'r amserlenni cysylltiedig; a

·         chopi o'r adroddiad ar yr ymchwiliad i brofiadau o ran gofal heb ei drefnu ym mhob bwrdd iechyd lleol, y disgwylir iddo gael ei gyhoeddi ym mis Ebrill 2015. 

 

(15.10)

10.

Papurau i’w nodi:

10.1

Gohebiaeth gan y Pwyllgor Deisebau: P-04-625 Cefnogaeth i Fil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

10.1a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth.

 

10.2

Y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru): Crynodeb o'r dystiolaeth a gafwyd gan ymgyrch y Coleg Nyrsio Brenhinol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

10.2a Nododd y Pwyllgor y crynodeb o'r dystiolaeth.

 

(15.10 - 15.20)

11.

Ymchwiliad i berfformiad y Gwasanaethau Ambiwlans yng Nghymru: trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

11.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol / y Dirprwy Weinidog Iechyd.