Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

(09.00 - 09.45)

1.

Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru): trafod yr adroddiad drafft;

Cofnodion:

1.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft. Cytunodd i ystyried yr adroddiad drafft ymhellach yn ei gyfarfod ar 25 Mehefin, 2015.

 

(09.45 - 10.00)

2.

General and financial scrutiny of the Minister for Health and Social Services and the Deputy Minister for Health: discussion of approach

Cofnodion:

2.1 Trafododd y Pwyllgor ei ddull o graffu ar waith y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cyffredinol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd yn gyffredinol ac yn ariannol.

(10.00)

3.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

3.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Lynne Neagle. Dirprwyodd Mike Hedges ar ran Lynne Neagle.

(10.00 - 11.00)

4.

Sesiwn graffu gyffredinol a chraffu ariannol gyda’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd

Mark Drakeford AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Vaughan Gething AC, y Dirprwy Weinidog Iechyd

Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru

Ruth Hussey, Prif Swyddog Meddygol

Albert Heaney, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio

Martin Sollis, Cyfarwyddwr Cyllid

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Bu’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog yn ateb cwestiynau gan yr Aelodau.

4.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu:

-     Dadansoddiad o’r dyraniadau ychwanegol o £6.8 miliwn ar gyfer y perfformiad gofal wedi’i gynllunio a £6.8 miliwn ar gyfer pwysau’r gaeaf i’r byrddau iechyd, a ddarparwyd yn ystod 2014-15, (y nodwyd y manylion yn eu cylch ym mharagraff 8 o’ch papur ysgrifenedig), fesul bwrdd iechyd unigol;

-     manylion am gynnwys cyffredinol y cyllidebau gofal iechyd sylfaenol a gofal iechyd eilaidd, gan gynnwys gwybodaeth am:

-     ddyraniadau a wnaed i wasanaethau gofal sylfaenol a gofal eilaidd, yn ôl eu trefn, yn 2014-15;

-     y gyfran o’r gorwariant yn 2014-15 a oedd i’w briodoli i ofal sylfaenol a gofal eilaidd, yn ôl eu trefn; ac

-     y codiadau / gostyngiadau ar gyfer cyllidebau gofal sylfaenol a gofal eilaidd, yn ôl eu trefn, ar gyfer pob un o’r pum mlynedd diwethaf, yn arbennig fel cyfran o gyllideb gyffredinol yr adran.

-     cadarnhad o’r dyddiad y rhoddwyd gwybod i fyrddau iechyd yng Nghymru na fyddai angen ad-dalu’r gorwariant a’r cyllid broceriaeth a ddarparwyd ar ddiwedd 2013-14, cyn cychwyn Deddf Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2014; ac

-     y wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith a wneir gan Lywodraeth Cymru o ran y llifau ariannol ar draws ffiniau byrddau iechyd.

(11.00 - 11.05)

5.

P-04-625 Cefnogaeth i’r Bil Lefelau Diogel Staffio Nyrsio (Cymru): cynnig i gau’r ddeiseb

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i argymell y dylid cau’r ddeiseb.

(11.05)

6.

Papurau i’w nodi

6.1

Cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 21 Mai a 3 Mehefin

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1a Nododd y Pwyllgor gofnodion cyfarfodydd 21 Mai a 3 Mehefin 2015.

6.2

Y Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru): gwybodaeth ychwanegol

Gwybodaeth ychwanegol gan y Rhwydwaith Maethu

Gwybodaeth ychwanegol gan y Comisiynydd Pobl Hŷn

Gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – 3 Mehefin 2015

Gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – 10 Mehefin 2015

Gwybodaeth ychwanegol gan Blant yng Nghymru

Gwybodaeth ychwanegol gan NSPCC

Gohebiaeth gan y Pwyllgor Cyllid – 11 Mehefin 2015

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.2a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol.

(11.05)

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o’r cyfarfod ar 25 Mehefin 2015

Cofnodion:

7.1 Derbyniodd y cynnig.

(11.05 - 11.20)

8.

Sesiwn graffu gyffredinol ac ariannol gyda’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd: ystyried y dystiolaeth

Cofnodion:

8.1 The Committee considered the evidence received.

(11.20 - 11.55)

9.

Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru): trafod y dull o graffu yng Nghyfnod 1.

Cofnodion:

9.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod ei ddull o graffu ar y Bil yng Nghyfnod 1 a chytunodd i:

·         gyhoeddi cais cyffredinol am dystiolaeth, gyda chyfnod ymgynghori o 11 wythnos, o 19 Mehefin tan 4 Medi 2015;

·         drafod ymhellach amserlen y sesiynau tystiolaeth lafar yn ei gyfarfod ar 25 Mehefin 2015.