Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Llinos Madeley
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad
o’r cyfarfod (PDF 217KB) Gweld
fel HTML (181KB) |
||
(09.15 - 10.00) |
Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru): Sesiwn friffio gan y Gwasanaeth Cyfreithiol Elisabeth Jones, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol Cofnodion: 1.1 Cafodd
aelodau sesiwn friffio gan y Gwasanaethau Cyfreithiol ar Fil Iechyd y Cyhoedd
(Cymru). |
|
(10.00) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 2.1 Cafwyd
ymddiheuriadau gan John Griffiths, Kirsty Williams a Lynne Neagle. |
|
(10.00 - 10.45) |
Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru): sesiwn dystiolaeth 11 Katherine Devlin, Cymdeithas Fasnach y Diwydiant
Sigaréts Trydanol Tom Pruen, Cymdeithas Fasnach y Diwydiant Sigaréts Trydanol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1
Ymatebodd y tystion i gwestiynau’r Aelodau. 3.2
Cytunodd y tystion i ddarparu i’r Pwyllgor dystiolaeth gan wasanaeth rhoi’r
gorau i ysmygu yn Lloegr ynghylch y defnydd o ddyfeisiau anweddu ochr yn ochr â
chynhyrchion a ragnodir fel ffordd o leihau’r defnydd o nicotin. |
|
(11.00 - 11.45) |
Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru): sesiwn dystiolaeth 12 Edward Woodall, Cymdeithas y Siopau Cyfleus Cyf Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1
Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan yr Aelodau. |
|
(11.45) |
Papur i’w nodi |
|
Bil Cymru Drafft: gohebiaeth gan y Llywydd Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.1a Nododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth. |
||
Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru): canlyniadau arolwg y Pwyllgor Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.2a Nododd
y Pwyllgor yr ymateb. |
||
(11.45) |
Cynnig o dan Reolau Sefydlog 17.42(vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn ac ar gyfer eitem 1 y cyfarfod ar 1 Hydref 2015 Cofnodion: 6.1
Derbyniwyd y cynnig. |
|
(11.45 - 12.00) |
Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru): ystyried y dystiolaeth Cofnodion: 7.1 Trafododd
y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |