Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.15)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Ni chafwyd ymddiheuriadau.

 

(09.15 - 10.00)

2.

Bil Cymru drafft: trafod effaith y Bil ar gymhwysedd deddfwriaethol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Trafododd y Pwyllgor effaith Bil Cymru drafft ar gymhwysedd deddfwriaethol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.

2.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol i gyfrannu at ei waith craffu cyffredinol ar Fil Cymru drafft, ac i anfon copi o’r llythyr hwn at Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y Prif Weinidog a’r Llywydd.

(10.00 - 12.30)

3.

Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru): trafod yr adroddiad drafft

Noder: Bydd y Pwyllgor yn cael egwyl rhwng 10.55 a 11.10 ar gyfer y ddwy funud o ddistawrwydd i nodi Dydd y Cofio.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft. Cytunodd y Pwyllgor i drafod yr adroddiad drafft eto yn ei gyfarfod ar 19 Tachwedd 2015.

3.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 17.34(ii), pleidleisiodd y Pwyllgor ar y cynnig a ganlyn, a gynigiwyd gan Darren Millar AC gyda chefnogaeth Alun Davies AC, ac fe'i derbyniwyd gan y Cadeirydd heb rybudd yn unol â Rheol Sefydlog 17.44:

 

Bod y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i ofyn am estyniad i'r dyddiad cau ar gyfer adrodd ar gasgliadau ei drafodaeth Cyfnod 1 ar Fil Iechyd y Cyhoedd (Cymru).

 

Dyma ganlyniad y bleidlais:

 

O blaid

Yn erbyn

Ymatal

Alun Davies

Altaf Hussain

Elin Jones

Darren Millar

Lindsay Whittle

Kirsty Williams

John Griffiths

Lynne Neagle

Gwyn Price

David Rees

0

6

4

0

Derbyniwyd y cynnig.

 

 

(12.30)

4.

Papurau i’w nodi

4.1

Cofnodion y cyfarfod ar 5 Tachwedd 2015

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1a Nododd y Pwyllgor y cofnodion.

 

4.2

Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru): gwybodaeth ychwanegol gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.2a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol.