Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Llinos Madeley
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad
o’r cyfarfod (PDF 268KB) Gweld
fel HTML (194KB). |
||
(09.30 - 09.45) |
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17: paratoi ar gyfer y sesiwn dystiolaeth lafar Cofnodion: 1.1
The Committee discussed its approach to the scrutiny of the Draft Budget
2016-17. |
|
(09.45) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 2.1
Cafwyd ymddiheuriadau gan Darren Millar a Lynne Neagle. Dirprwyodd Jenny
Rathbone ar ran Lynne Neagle. |
|
(09.45 - 11.15) |
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17: Sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog Mark Drakeford AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Vaughan Gething AC, y Dirprwy Weinidog Iechyd Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
a Phrif Weithredwr GIG Cymru Albert Heaney, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio Martin Sollis, Cyfarwyddwr Cyllid Gwybodaeth ategol: Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Craffodd y Pwyllgor ar waith y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol a gwaith y Dirprwy Gweinidog Iechyd ynghylch cyllideb ddrafft
Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17. 3.2 Cytunodd y Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog i ddarparu'r canlynol: ·
amlinelliad o sut mae'r £200 miliwn ychwanegol i gefnogi cyflenwi craidd y
GIG wedi cael ei ddosbarthu; ·
ymateb i'r ffigurau a amlinellwyd yn adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru Helpu Pobl Hŷn i Fyw'n
Annibynnol: A yw Cynghorau'n gwneud
digon?' (Hydref 2015)
sy'n dangos - ar sail dadansoddiad Swyddfa Archwilio Cymru: o
bod 16.8 y cant o ostyngiad i gyllidebau gwasanaethau ataliol, o £147.3
miliwn yn 2013-14 i £122.5 miliwn yn 2014-15, gyda saith o'r meysydd a
adolygwyd ganddynt yn gweld eu cyllidebau yn gostwng. ·
dadansoddiad o'r gwariant cyfalaf arfaethedig ar gyfer 2016-17, yn cynnwys: o
manylion y dyraniadau cyfalaf dewisol i fyrddau iechyd lleol; o
manylion am gostau’r cynlluniau yn 2016-17 sy'n cael eu hariannu yn barod; o
manylion y dyraniadau cyfalaf newydd ar gyfer 2016-17. 3.3 Datganodd David Rees y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog
17.24A: ·
Mae ei wraig yn cael ei chyflogi fel radiograffydd uwch-arolygydd gan y
Gwasanaeth Iechyd Gwladol. |
|
(11.15) |
Papurau i’w nodi |
|
Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 3 Rhagfyr 2015. Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1a Nododd y Pwyllgor y cofnodion. |
||
Gohebiaeth rhwng y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.2a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth. |
||
(11.15) |
Cynnig o dan Reolau Sefydlog 17.42(vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn ac ar gyfer eitem 1 y cyfarfod ar 20 Ionawr 2016 Cofnodion: 5.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(11.15 - 11.30) |
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17: trafod y dystiolaeth Cofnodion: 6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd gan y Gweinidog Cyllid a'r
Dirprwy Weinidog a chytunwyd i ysgrifennu atynt i ofyn am eglurhad ynghylch
nifer o faterion a gododd yn ystod y sesiwn. 6.2 Cytunodd y Pwyllgor y byddai'r llythyr hwn yn cael ei rhannu â'r
Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i lywio'r craffu ar y
gyllideb ddrafft ar gyfer 2016-17. |
|
(11.30 - 11.45) |
Ymchwiliad dilynol i berfformiad y Gwasanaethau Ambiwlans yng Nghymru: trafod y deilliannau Cofnodion: 7.1 Trafododd y Pwyllgor y llythyr drafft at y Dirprwy Weinidog Iechyd a
chytunwyd ar y llythyr hwnnw, yn amodol ar fân newidiadau. |
|
(11.45 - 11.55) |
Etifeddiaeth Pwyllgor y Pedwerydd Cynulliad: trafod y dull gweithredu Cofnodion: 8.1 Trafododd y Pwyllgor ei ddull gweithredu a chytunodd arno. |
|
(11.55 - 12.00) |
Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru): trafodaeth am y drefn o ran ystyried trafodion Cyfnod 2 Cofnodion: 9.1 Cytunodd y Pwyllgor ar drefn ystyried trafodion Cyfnod 2 Bil Iechyd y
Cyhoedd (Cymru) mewn egwyddor. |