Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF227KB) Gweld fel HTML (155KB).

(09.30 - 09.45)

1.

Sesiwn graffu gyda Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru: paratoi at sesiwn dystiolaeth lafar

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

1.1 Trafododd y Pwyllgor ei ffordd o ymdrin â'r sesiwn graffu gyda'r Comisiynydd.

 

(09.45)

2.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

2.1 Ni chafwyd ymddiheuriadau.

 

(09.45 - 11.15)

3.

Sesiwn graffu gyda Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru: dilyniant i ymchwiliad y Pwyllgor i ofal preswyl i bobl hŷn ac adolygiad y Comisiynydd o gartrefi gofal

Sarah Rochira, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

 

Gwybodaeth ategol:

 

Noder: Mae’r adroddiadau cynnydd gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a Llywodraeth Cymru i’r Comisiynydd, y cyfeirir atynt yn llythyr y Gweinidog, wedi’u cyhoeddi yn atodiadau C a D o dystiolaeth ysgrifenedig y Comisiynydd.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Bu’r Comisiynydd yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

3.2 Cytunodd y Comisiynydd i ddarparu'r eitemau a ganlyn i'r Pwyllgor:

·         amserlen yn amlinellu pryd y mae'n disgwyl gallu darparu tystiolaeth o ganlyniadau sy'n deillio o'r 'anghenion gweithredu' yn ei hadolygiad o Gartrefi Gofal;

·         rhestr o gamau gweithredu a gwaith dilynol ym maes gofal preswyl y mae'n bwriadu eu cadarnhau maes o law.

 

(11.15)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(11.15 - 11.30)

5.

Sesiwn graffu gyda Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru: trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law, a chytunodd i ysgrifennu at y Comisiynydd a Llywodraeth Cymru i amlinellu ei farn.

 

(11.30 - 11.45)

6.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Mynediad at Driniaethau Meddygol (Arloesi): Trafod yr ymdriniaeth ohono

Cofnodion:

6.1 Ystyriodd y Pwyllgor ei ffordd o ymdrin â'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol mewn cysylltiad â'r Bil Mynediad at Driniaethau Meddygol (Arloesi) a chytunwyd ar y ffordd honno.