Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd

Cyswllt: Polisi: Siân Phipps  Dirprwy Glerc: Ffion Emyr Bourton

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Dafydd Elis-Thomas. Nid oedd dim dirprwyon yn bresennol.

(09.30-10.45)

2.

Cyflwyniad i'r Gwaith Allgymorth ar Entrepreneuriaeth ymysg Pobl Ifanc

Cofnodion:

2.1 Rhoddwyd cyflwyniad i’r Aelodau ar y gwaith allgymorth ar gyfer Ymchwiliad y Pwyllgor i Entrepreneuriaeth ymysg Pobl Ifanc.

(10.45-11.15)

3.

Bil Teithio Llesol (Cymru): Cyfnod 1 - Trafod yr adroddiad drafft diwygiedig

Mae’r eitem hon yn amodol ar a fydd y Pwyllgor yn cytuno ar yr adroddiad drafft diwygiedig ai peidio.

Cofnodion:

3.1 Gohirwyd yr eitem gan fod y Pwyllgor wedi cytuno ar adroddiad drafft Cyfnod 1 y Bil Teithio Llesol (Cymru) y tu allan i’r cyfarfod.