Agenda, decisions and minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Siân Phipps
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Trawsgrifiad |
|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Cafwyd
ymddiheuriadau gan David Rees AC, Byron Davies AC, Dafydd Elis-Thomas AC a Mick
Antoniw AC. Nid oedd unrhyw ddirprwyon ar eu rhan. |
|
Ymchwiliad i ddull Llywodraeth Cymru o hyrwyddo masnach a mewnfuddsoddi - cyfweld â busnesau bach a chanolig eu maint (fideo) (10.30-10.55) Cofnodion: 2.1 Fel rhan o'r Ymchwiliad i ddull
Llywodraeth Cymru o hyrwyddo masnach a mewnfuddsoddi, gwyliodd y Pwyllgor ffilm
o gyfweliadau ag entrepreneuriaid busnesau bach a chanolig. |
|
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Nododd y Pwyllgor y dogfennau ategol canlynol: |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau a ganlyn: trafod y ffilm o gyfweliadau ag entrepreneuriaid busnesau bach a chanolig a thrafod y Papur Cwmpasu ar gyfer yr ymchwiliad STEM (10.55) |
|
Trafodaeth am y ffilm o'r cyfweliadau ag entrepreneuriaid busnesau bach a chanolig (10.55 -11.20) Cofnodion: 5.1 Trafododd y Pwyllgor yr eitem hon mewn sesiwn breifat. |
|
Papur cwmpasu ar gyfer yr ymchwiliad dilynol i sgiliau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) (11.20-11.45) Penderfyniad: Cymeradwyodd y
Pwyllgor y cylch gorchwyl ar gyfer yr ymchwiliad dilynol i sgiliau
Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM). Cofnodion: 6.1 Trafododd y Pwyllgor yr eitem hon mewn sesiwn breifat. 6.2 Cymeradwyodd y Pwyllgor y cylch gorchwyl ar gyfer yr
ymchwiliad dilynol i sgiliau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg
(STEM). |
|
Ymchwiliad i gyfleoedd cyllido'r UE 2014-20 - digwyddiad ymgysylltu gyda Phrifysgol Caerdydd a Phrifysgol Fetropolitan Caerdydd (cynhelir y digwyddiad ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd, Campws Cyncoed) (12.30-14.30) Dogfennau ategol: Cofnodion: 7.1 Fel rhan o'i ymchwiliad i gyfleoedd ariannu'r UE
2014-2020, cymerodd y Pwyllgor ran mewn digwyddiad ymgysylltu gyda Phrifysgol
Caerdydd a Phrifysgol Fetropolitan Caerdydd (Cynhaliwyd y digwyddiad ym
Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd, Campws Cyncoed). |