Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Siân Phipps
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad |
||
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan
David Rees AC a Byron Davies AC. Nid oedd unrhyw ddirprwyon. |
||
Ymchwiliad i gyfleoedd cyllido yr UE 2014-2020 (sesiwn 8) (09.00-09.30) Tystion: Ian Davies, Rheolwr Llwybrau - De Môr Iwerddon, Stena Line Limited Alec Don, Prif Weithredwr, Porthladd Aberdaugleddau Callum Couper, Rheolwr Porthladd, Porthladdoedd Cysylltiedig Prydain, De Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ian
Davies, Rheolwr Llwybrau – rhanbarth De Môr Iwerddon, Stena Line Limited; Alec
Don, Prif Weithredwr a Mark Andrews, Cyfarwyddwr Materion Corfforaethol, a oedd
ill dau yn cynrychioli porthladd Aberdaugleddau, a Callum Couper, Rheolwr
Porthladd, Porthladdoedd Cysylltiedig Prydain, De Cymru. |
||
Ymchwiliad i gyfleoedd cyllido yr UE 2014-2020 (sesiwn 9) (09.30-10.00) Tystion: Dr Andrew Potter, Ysgol Fusnes Caerdydd, Prifysgol Caerdydd Martin Evans, cyn-gadeirydd ac aelod o Fwrdd Sefydliad Siartredig Logisteg a
Thrafnidiaeth Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Dr
Andrew Potter, Ysgol Fusnes Caerdydd, Prifysgol Caerdydd a Martin Evans,
cyn-gadeirydd ac aelod o Fwrdd Sefydliad Siartredig Logisteg a Thrafnidiaeth
Cymru. |
||
Ymchwiliad i gyfleoedd cyllido yr UE 2014-2020 (sesiwn 6) (10.10-10.50) Tystion: Ceri Jones, Yr Adran Ymchwil ac Arloesi, Prifysgol Abertawe Wyn Prichard, Cyfarwyddwr Cymru, Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu Chris Doherty, Arweinydd Adnoddau Dynol, GE Aviation Wales Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ceri Jones, Adran Ymchwil ac
Arloesedd, Prifysgol Abertawe, a Wyn Prichard, Cyfarwyddwr Cymru, Bwrdd
Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu. |
||
(11.00-12.00) |
Cynllunio ac Ariannu Trafnidiaeth (11.00-12.00) Tystion: Edwina Hart AC, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Llywodraeth Cymru James Price, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth Claire Bennett, Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi, Cynllunio a Phartneriaethau Trafnidiaeth Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan
Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Llywodraeth Cymru. Cefnogwyd
y Gweinidog gan James Price, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Adran yr Economi,
Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth a Claire Bennett, Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi,
Cynllunio a Phartneriaethau Trafnidiaeth. 5.2 Cytunodd Gweinidog yr Economi,
Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i: - Rannu argymhellion y Grŵp
Cynghori ar Fysiau; - Ystyried a ddylid cynnwys y Gymdeithas
Cludiant Cymunedol yn y Grŵp Cynghori ar Fysiau; - Darparu nodyn ar broses gymeradwyo
Llywodraeth Cymru o ran y penderfyniad ynghylch tocynnau rhatach, a sut y
darparwyd cyngor i’r Gweinidog; - Darparu nodyn ar sut y caiff
amcanestyniadau demograffig Cymru eu hystyried wrth bennu lefelau ariannu
teithio rhatach dros y tair blynedd nesaf, o gofio’r gostyngiadau yn y cyllid
sydd ar gael ym mhob blwyddyn o’r cytundeb; - Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am y
cynlluniau i ddatblygu tocynnau teithio rhatach i bobl ifanc; - Darparu nodyn ar y dull o ariannu’r
gwaith o drydaneiddio rheilffyrdd yn ne Cymru, a nodwyd yn achos busnes
amlinellol terfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer trydaneiddio yn y Cymoedd, gan
gynnwys adran 6 o Achos Busnes Amlinellol dyddiedig Mai 2012, ac os yn bosibl,
gan gynnwys y ffigurau a adolygwyd o’r achos busnes; - Darparu nodyn ar y trafodaethau a
gafwyd ynghylch trydaneiddio rheilffordd gogledd Cymru, a materion trafnidiaeth
ehangach sy’n gysylltiedig â hynny; - Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am waith deuoli i gysylltu prif linell
rheilffordd Gogledd Cymru â Lerpwl a Manceinion. |
|
Papurau i’w nodi |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Ymchwiliad i Dwristiaeth (trafod y papur cwmpasu) Cofnodion: 7.1 Penderfynodd y Pwyllgor, o dan Reol Sefydlog 17.42 i wahardd y cyhoedd
o’r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Ymchwiliad i Dwristiaeth (trafod y papur
cwmpasu). |
||
Ymchwiliad i Dwristiaeth (trafod y papur cwmpasu) (12.00-12.15) Cofnodion: 8.1 Ystyriodd y Pwyllgor yr eitem hon mewn sesiwn breifat. 8.2 Cymeradwyodd y Pwyllgor y cylch gorchwyl ar gyfer yr Ymchwiliad i
Dwristiaeth. |