Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Siân Phipps 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan David Rees AC a Byron Davies AC. Nid oedd unrhyw ddirprwyon.

 

(09.15-09.30)

2.

Ymchwiliad i Dwristiaeth - trafod yr opsiynau ar gyfer ymweliad

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1. Trafododd y Pwyllgor yr eitem hon yn breifat a chytunwyd i gynnal ymweliadau i dri lleoliad ledled Cymru ar 26 Mehefin 2014.

 

(09.30-10.00)

3.

Ymchwiliad Dilynol i STEM - papur briffio ar gyfer y gwe-sgyrsiau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Trafododd y Pwyllgor yr eitem hon mewn sesiwn breifat.

 

(10.15-11.00)

4.

Ymchwiliad Dilynol i STEM - gwe-sgwrs â myfyrwyr Addysg Uwch/Addysg Bellach

Mick Antoniw AC

Dafydd Elis-Thomas AC

William Graham AC

Eluned Parrott AC

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Fel rhan o'r Ymchwiliad Dilynol i STEM gwnaeth Aelodau'r Pwyllgor: Mick Antoniw AC, Dafydd Elis-Thomas AC, William Graham AC ac Eluned Parrott AC gymryd rhan yn y gwe-sgwrs â myfyrwyr Addysg Uwch/Addysg Bellach. Er y cynhaliwyd y gwe-sgwrs yn breifat, bydd y trawsgrifiad ar gael i'r cyhoedd maes o law.

 

(11.10-11.55)

5.

Ymchwiliad Dilynol i STEM - gwe-sgwrs ar y rhywiau a STEM

Keith Davies AC

Rhun ap Iorwerth AC

Julie James AC

Joyce Watson AC

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Fel rhan o'r Ymchwiliad Dilynol i STEM gwnaeth Aelodau'r Pwyllgor: Keith Davies AC, Rhun ap Iorwerth AC, Julie James AC a Joyce Watson AC gymryd rhan yn y gwe-sgwrs ar y rhywiau a STEM. Er y cynhaliwyd y gwe-sgwrs yn breifat, bydd y trawsgrifiad ar gael i'r cyhoedd maes o law.

 

6.

Papurau i’w nodi

EBC(4)-11-14 (p.5) - Adroddiad cryno ar y prif bwyntiau sy'n ymwneud â cham cyntaf yr Arolwg Hydredol o Ardaloedd Menter

http://wales.gov.uk/topics/businessandeconomy/help/enterprisezones/?skip=1&lang=cy  

 

 

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Nododd y Pwyllgor y dogfennau ategol canlynol:

 

EBC(4)-11-14 (p.1) - Perfformiad Banc Buddsoddi Ewrop yng Nghymru

EBC(4)-11-14 (p.2) - Gwybodaeth am gyfranogiad Cymru yn y rhaglen MEDIA 2007

EBC(4)-11-14 (p.3) - Nodyn ar waith Tasglu'r Gweinidog ar gyfer Trafnidiaeth Gogledd Cymru

EBC(4)-11-14 (p.4) - Gwybodaeth ychwanegol am hyrwyddo masnach a mewnfuddsoddiad

EBC(4)-11-14 (p.5) - Adroddiad cryno ar y prif bwyntiau sy'n ymwneud â cham cyntaf yr Arolwg Hydredol o Ardaloedd Menter 

 

6.2 O ran Papur 3 o'r papurau i'w nodi, cytunodd y Pwyllgor i dderbyn rhagor o dystiolaeth lafar gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth ynghylch trydaneiddio’r rheilffyrdd.