Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Claire Morris
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(9:30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Cafwyd
ymddiheuriadau gan Mick Antoniw AC, Byron Davies AC a David Rees AC. Dirprwyodd
Suzy Davies AC ar ran Byron Davies AC. |
|
(9:30-10:30) |
Ymchwiliad i Dwristiaeth (Sesiwn 6) John Griffiths AC, y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon Llyr Jones, Swyddog Cyswllt Parcau Cenedlaethol, Llywodraeth
Cymru Marilyn Lewis, Cyfarwyddwr, Cadw Linda Tomos, Cyfarwyddwr, CyMAL Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu John Griffiths (y Gweinidog
Diwylliant a Chwaraeon), Marilyn Lewis a Linda Tomos yn ateb cwestiynau gan
aelodau’r pwyllgor. Cytunodd John Griffiths i ddarparu
gwybodaeth ychwanegol am y materion a ganlyn i’r Pwyllgor: i) y mewnbwn y
mae ei swyddogion wedi’i gael i’r ymarfer brandio gydag Ashton Brand Consulting
Group. ii) sut y mae
ei adran yn cyfrannu at dwristiaeth drwy gynnal a chadw atyniadau. iii) pa
dargedau sydd ganddo i gynyddu nifer yr ymwelwyr i’r atyniadau sydd o dan ei ofal. iv)
canlyniadau’r arolygiadau o foddhad ymwelwyr a gynhaliwyd gan ei adran yn ddiweddar.
v) rôl y
Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig o ran trefnu gŵyl WOMEX. |
|
(10:40-11:10) |
Ymchwiliad i Dwristiaeth (Sesiwn 7) David Alston, Cyfarwyddwr y Celfyddydau, Cyngor Celfyddydau
Cymru Sian Tomos, Cyfarwyddwr Menter ac Adfywio, Cyngor Celfyddydau
Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Bu David Alston a Sian Tomos yn
ateb cwestiynau gan aelodau’r pwyllgor. Cytunodd David Alston i ddarparu
gwybodaeth ychwanegol i’r Pwyllgor ynglŷn â digwyddiadau sy’n denu sylw’r
wasg ac sy’n gallu bod yn fwy effeithiol na hysbysebu uniongyrchol. |
|
(11:15-11:45) |
Ymchwiliad i Dwristiaeth (Sesiwn 8) Rebecca Brough, Y Cerddwyr a Chyswllt Amgylchedd Cymru James Byrne, Ymddiriedolaethau Natur Cymru a Chyswllt
Amgylchedd Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu Rebecca Brough a James Byrne yn ateb cwestiynau gan
aelodau’r Pwyllgor. |
|
Papurau i'w nodi Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y dogfennau a ganlyn: EBC(4)-18-14 (p. 4) – Llythyr i Weinidog yr Economi,
Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth EBC(4)-18-14 (p. 5) – Ymaeteb oddi wrth Weinidog yr Economi,
Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth EBC(4)-18-14 (p. 6) – Tystiolaeth Ychwanegol (1) gan
VisitBritain EBC(4)-18-14 (p. 7) - Tystiolaeth Ychwanegol (2) gan
VisitBritain EBC(4)-18-14 (p. 8) – Llythyr oddi wrth y Pwyllgor Cyllid i
Gadeiryddion |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn Eitem 7 Cofnodion: Penderfynodd y Pwyllgor i wahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar
gyfer y busnes a ganlyn: Ystyried adroddiad drafft (Ymchwiliad i agwedd Llywodraeth
Cymru tuag at hyrwyddo marchnata a mewnfuddsoddi). |
||
(11:45-12:15) |
Ystyried Adroddiad Drafft Adroddiad drafft ar gyfer yr ymchwiliad i agwedd Llywodraeth
Cymru tuag at hybu masnach a mewnfuddsoddi. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft. |