Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Marc Wyn Jones
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad |
||
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Cafwyd
ymddiheuriadau am absenoldeb gan Eluned Parrott, Jeff Cuthbert a Gwenda Thomas. |
||
(09.30-10.30) |
Polisi Ardrethi Busnes - Ffederasiwn y Busnesau Bach Iestyn
Davies, Pennaeth Materion Allanol (Gwledydd Datganoledig), Ffederasiwn y
Busnesau Bach Josh Miles,
Cynghorydd Polisi, Ffederasiwn y Busnesau Bach Cofnodion: 2.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Iestyn Davies a
Josh Miles. |
|
(10.40-11.40) |
Polisi Ardrethi Busnes - Craffu ar y Gweinidog Edwina
Hart, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth. Tracey Burke, Cyfarwyddwr Strategaeth, Adran yr Economi,
Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth. Chris Sutton, Cadeirydd y Panel Trethi Busnes Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Craffodd y Pwyllgor ar waith Gweinidog yr Economi,
Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth. 3.2
Cytunodd y Gweinidog i ddarparu gwybodaeth am Fusnesau
Bach a Chanolig sydd wedi elwa o’r Cynllun Ardrethi Busnes, ac sy’n gymwys
amdano, ar gyfer pob Ardal Fenter. 3.3
Cytunodd y Gweinidog i ddarparu enghreifftiau o arferion
da o ran rhyddhad ardrethi busnesau bach yng Ngogledd Iwerddon ac unrhyw ddata
defnyddiol a ddeilliodd o hyn. 3.4
Cytunodd y Gweinidog i ddarparu gwybodaeth am unrhyw
asesiadau economaidd y mae Llywodraeth Cymru wedi’u gwneud a’r manteision a
ddaeth yn sgil cynlluniau dros dro, gan gynnwys yr Ardal Fenter a chynlluniau
ardrethi busnes Murco. 3.5
Cytunodd y Gweinidog i ddarparu manylion am ddatblygiadau
o ran ardrethi busnes ar gyfer llety hunanddarpar a chrynodeb gweithredol o’r
astudiaeth y cyfeiriodd y Gweinidog ati. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod. Cofnodion: 4.1 Cytunodd y Pwyllgor i wahardd y cyhoedd o weddill y
cyfarfod. |
||
(11.50-12.00) |
Adroddiad Drafft ar Helpu Pobl Ifanc i Gael Gwaith Cofnodion: 5.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr Adroddiad Drafft ar Helpu
Pobl Ifanc i Gael Gwaith. |
|
(12.00-12.15) |
Y Flaenraglen waith Cofnodion: 6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar Flaenraglen Waith Haf 2015. |
|
Papurau i’w nodi |
||
Llythyr oddi wrth Jane Hutt i William Graham ynghylch y Polisi Ardrethi Busnes Dogfennau ategol: Cofnodion: 7.1.1 Nodwyd y papur gan y Pwyllgor. |
||
Papur ysgrifenedig gan Gonsortiwm Manwerthu Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 7.2.1 Nodwyd y papur gan y Pwyllgor. |
||
Ymateb Consortiwm Manwerthu Prydain i weinyddu ardrethi busnes yn Lloegr (canfyddiadau interim) Dogfennau ategol: Cofnodion: 7.3.1 Nodwyd y papur gan y Pwyllgor. |
||
Crynodeb o'r ymweliadau rapporteur ar 12 Chwefror 2015 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.4.1 Nodwyd y papur gan y Pwyllgor. |
||
Llythyr oddi wrth Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru i William Graham ynghylch y Strategaeth Sgiliau ar gyfer Pobl Hŷn Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.5.1 Nodwyd y papur gan y Pwyllgor. |