Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Price 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 384KB) Gweld fel HTML (383KB)

 

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Mick Antoniw AC, Dafydd Elis-Thomas AC a Gwenda Thomas AC.

1.2 Datganodd Eluned Parrott AC fod ei gŵr yn gweithio i Sefydliad Addysg Uwch.

1.3 Datganodd Keith Davies AC fod ei fab yn astudio mewn Sefydliad Addysg Uwch.

(09.30-10.15)

2.

Sesiwn ddiweddaru ar Horizon 2020 ac Erasmus+

Yr Athro Richard Davies, Is-Ganghellor, Prifysgol Abertawe

Yr Athro David Shepherd, Dirprwy Is-Ganghellor (Ymchwil a Menter), Prifysgol Bangor

Berwyn Davies, Pennaeth Swyddfa, Addysg Uwch Cymru Brwsel

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Atebodd yr Athro Richard Davies, yr Athro David Shepherd a Berwyn Davies gwestiynau gan Aelodau o’r Pwyllgor.

(10.30-11.00)

3.

Sesiwn ddiweddaru ar Horizon 2020 ac Erasmus+

Iestyn Davies, Prif Weithredwr, ColegauCymru

Siân Holleran, Cydlynydd Rhyngwladol, ColegauCymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Atebodd Iestyn Davies a Siân Holleran gwestiynau gan Aelodau o’r Pwyllgor.

3.2 Cynigiodd Iestyn Davies ddarparu gwybodaeth bellach ymhen rhai misoedd yn nodi sut mae Sefydliadau Addysg Bellach yn gweithio gyda Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu (CITB) i gefnogi’r sector adeiladau a pheirianneg.

(11.00-11.30)

4.

Sesiwn ddiweddaru ar Horizon 2020 ac Erasmus+

Jenny Scott, Cyfarwyddwr, British Council Cymru

Ruth Sinclair-Jones, Cyfarwyddwr, Asiantaeth Genedlaethol y DU ar gyfer Erasmus+, British Council

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Atebodd Jenny Scott a Ruth Sinclair-Jones gwestiynau gan Aelodau o’r Pwyllgor.

(11.30-12.15)

5.

Sesiwn ddiweddaru ar Horizon 2020 ac Erasmus+

Julie James AC, Y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg

Andrew Clark, Dirprwy Gyfarwyddwr Addysg Bellach a Phrentisiaethau, Llywodraeth Cymru

Michaela Renkes, Uwch Reolwr Cynllunio a Chyllido Addysg ôl-16, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Atebodd Julie James AC, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, Huw Morris, Andrew Clark a Michaela Renkes gwestiynau gan Aelodau o’r Pwyllgor.

5.2 Cytunodd y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg i ddarparu adborth ynghylch y fenter Cymru Fyd-eang yn dilyn ei chyfarfod cyntaf, y bwriedir ei chynnal fis Tachwedd.

5.3 Cynigiodd Huw Morris ysgrifennu at y Pwyllgor gan nodi rhan Llywodraeth Cymru yn y broses o wneud cynigion am gyllid UE gan gynnwys nifer y sefydliadau addysg sydd wedi gwneud cynnig (gan gynnwys manylion yn ôl ardal) a’r ceisiadau hynny a wnaed ar y cyd, tynnwyd yn ôl neu a gyfunwyd.

6.

Papurau i'w nodi

6.1

Ymchwiliad i Botensial yr Economi Forol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1.1 Nodwyd y papur gan y Pwyllgor.

6.2

Tystiolaeth ysgrifenedig gan Gyswllt Amgylchedd Cymru i'r Ymchwiliad i Botensial yr Economi Forol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.2.1 Nodwyd y papur gan y Pwyllgor.

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

7.1 Cytunodd y Pwyllgor i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

(12.15-12.20)

8.

Cyfleoedd Cyflogaeth i Bobl dros 50 Oed

Cofnodion:

8.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y llythyr drafft ar Gyfleoedd Cyflogaeth i Bobl dros 50 Oed.