Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gareth Price
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad
o’r cyfarfod (PDF 479KB) Gweld
fel HTML (524KB) |
||
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Cafwyd
ymddiheuriadau gan Gwenda Thomas AC. |
||
(09.30-10.15) |
Cynlluniau Trafnidiaeth yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd Neil Hanratty, Cyfarwyddwr Datblygiad Economaidd, Cyngor
Dinas Caerdydd Claire Moggridge, Rheolwr Gweithredol – Rheoli Rhwydwaith
Trafnidiaeth, Cyngor Dinas Caerdydd Josh Jones, Prif Uwch-arolygydd, Heddlu De Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Neil Hanratty. Roedd Paul
Carter, Rheolwr Gweithredol ar gyfer Trafnidiaeth a Gweithrediadau’r Ddinas yn bresennol yn ei le. 2.2 Atebodd Claire Moggridge, Paul Carter a Josh Jones
gwestiynau gan Aelodau o’r Pwyllgor. 2.3 Cytunodd Claire Moggridge i ddarparu’r hyn a ganlyn: ·
Manylion o ran nifer y tacsis sy’n gweithredu yng
Nghaerdydd, ac unrhyw hyfforddiant a ddarperir er mwyn delio â digwyddiadau
mawr. ·
Sylwadau ynghylch a fyddai datganoli rheoleiddio tacsis a
hurio preifat yn gallu mynd i’r afael â materion sy’n ymwneud â’r ddarpariaeth o
drafnidiaeth yn ystod digwyddiadau mawr yng Nghaerdydd. ·
Sylwadau ynghylch a oedd ymateb gyrwyr tacsis i'r
ymosodiadau rhywiol difrifol yng Nghaerdydd ym mis Medi yn ddigonol, yn enwedig
yr awgrymiadau bod gyrwyr wedi parhau i wrthod mynd â menywod ar deithiau byr. |
|
(10.30-11.30) |
Cynlluniau Trafnidiaeth yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd - Gwasanaethau Trenau Ian Bullock, Rheolwr Gyfarwyddwr, Trenau Arriva Cymru Lynne Milligan, Cyfarwyddwr Gwasanaethau i Gwsmeriaid, Trenau
Arriva Cymru Mark Hopwood, Rheolwr Gyfarwyddwr, Great Western Railway Paul McMahon, Rheolwr Gyfarwyddwr Llwybrau – Cymru,
Network Rail Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Atebodd Ian Bullock, Lynne Milligan, Mark Hopwood a
Paul McMahon gwestiynau gan Aelodau o’r Pwyllgor. 3.2 Chwaraeodd Trenau Arriva Cymru fideo byr. 3.3 Chwaraeodd Great Western Railway ffeil sain fer. |
|
(11.30-12.00) |
Cynlluniau Trafnidiaeth yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd - Gwasanaethau Bysiau Cynthia Ogbonna, Rheolwr Gyfarwyddwr, Bws Caerdydd Gareth Stevens, Rheolwr Datblygu Busnes, Bws Caerdydd John Pockett, Cyfarwyddwr, Cysylltiadau Llywodraethol, Cydffederasiwn
Cludiant Teithwyr Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Atebodd Cynthia Ogbonna, Gareth Stevens a John
Pockett gwestiynau gan Aelodau o’r Pwyllgor. |
|
(13.00-14.00) |
Cynlluniau Trafnidiaeth yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd - Trefnwyr Mick Wright, Pennaeth Gwasanaethau Twrnamaint, Cwpan
Rygbi’r Byd Christopher Garnett, Cynghorydd Trafnidiaeth Strategol, Cwpan
Rygbi’r Byd Tom Legg, Rheolwr Trafnidiaeth Twrnamaint, Cwpan Rygbi’r
Byd Neil Snowball, Prif Swyddog Gweithredu, Cwpan Rygbi’r Byd Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1 Atebodd Mick Wright, Christopher Garnett, Tom Legg a
Neil Snowball gwestiynau gan Aelodau o’r Pwyllgor. 5.2 Cytunodd Neil Snowball i ddarparu copi o’r asesiad o effaith
economaidd a gynhaliwyd cyn ac ar ôl Cwpan Rygbi’r Byd 2015. |
|
Papurau i'w nodi |
||
Llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid Dogfennau ategol: Cofnodion: 6.1.1 Nodwyd y papur gan y Pwyllgor. |
||
Llythyr i'r Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.2.1 Nodwyd y papur gan y Pwyllgor. |
||
Gwybodaeth ychwanegol a ddarperir gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor ar 15 Hydref Dogfennau ategol: Cofnodion: 6.3.1 Nodwyd y papur gan y Pwyllgor. |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod. Cofnodion: 7.1 Cytunodd y Pwyllgor i wahardd y cyhoedd o weddill y
cyfarfod. |
||
(14.00-14.10) |
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol - Comisiynydd Busnesau Bach Gareth Pembridge, Gwasanaethau
Cyfreithiol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru Cofnodion: 8.1 Nododd y Pwyllgor y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar
y Comisiynydd Busnesau Bach a chytunwyd arno. |
|
(14.10-14.30) |
Ystyriaeth o Fil Cymru Drafft Gareth Pembridge, Gwasanaethau
Cyfreithiol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru Cofnodion: 9.1 Ystyriodd y Pwyllgor oblygiadau’r Bil Cymru Drafft ar
gylch gwaith y Pwyllgor. 9.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at yr Ysgrifennydd
Gwladol i ofyn am eglurhad ar rannau o’r Bil Cymru Drafft. |