Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Cyswllt: Siân Phipps Deputy Clerk: Kayleigh Driscoll
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Croesawodd y
Cadeirydd bawb i’r Pwyllgor. Cafwyd ymddiheuriadau gan Dafydd Elis-Thomas; nid
oedd neb yn dirprwyo. |
||
(09.30 - 10.30) |
Sesiwn graffu gyda'r Dirprwy Weinidog Sgiliau - Y wybodaeth ddiweddaraf am yr adroddiad ar bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant ·
Jeff Cuthbert AC, y Dirprwy
Weinidog Sgiliau ·
Teresa Holdsworth - Dirprwy Gyfarwyddwr Is-adran Ymgysylltiad a Chyflogaeth Pobl Ifanc, Llywodraeth Cymru ·
Suzanne Chisholm - Pennaeth
Cynorthwyo Pobl Ifanc, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Estynnodd y
Cadeirydd groeso i Jeff Cuthbert AC, y Dirprwy Weinidog Sgiliau, Llywodraeth Cymru,
Teresa Holdsworth, Dirprwy Gyfarwyddwr Is-adran Ymgysylltiad a Chyflogaeth Pobl
Ifanc, Llywodraeth Cymru a Suzanne Chisholm,
Pennaeth Cynorthwyo Pobl Ifanc, Llywodraeth Cymru. Bu’r Aelodau yn
holi’r Dirprwy Weinidog ynghylch y cynnydd a wnaed ers i’r Pwyllgor Menter a
Busnes gyhoeddi ei adroddiad ar bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na
hyfforddiant ym mis Hydref 2010. Cytunodd y
Dirprwy Weinidog Sgiliau i roi gwybodaeth a ffigurau manylach i’r Pwyllgor
ynghylch faint o gynlluniau sy’n bodoli i fynd i’r afael â phobl ifanc nad
ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant. |
|
(10.30) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Cofnodion: 3.1 Cynigodd y
Cadeirydd gynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o
weddill y cyfarfod. 3.2 Cytunodd y
Pwyllgor ar y cynnig, a symudodd i sesiwn breifat. |
|
(10.30 - 11.00) |
Dylanwadu ar y broses o foderneiddio polisi caffael yr Undeb Ewropeaidd - Trafod yr adroddiad drafft Cofnodion: 4.1 Cytunodd y Pwyllgor
ar yr adroddiad, yn amodol ar wneud rhai gwelliannau. |
|
Trawsgrifiad |