Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Cyswllt: Siân Phipps Deputy Clerk: Kayleigh Driscoll
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: |
||
(9.30 - 10.15) |
Ymchwiliad i brentisiaethau yng Nghymru - Sesiwn dystiolaeth Papur 1 Gyrfa Cymru Trina Neilson – Prif Weithredwr Shirley Rogers – Cyfarwyddwr Rhanbarthol Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Croesawodd y
Cadeirydd Trina Neilson a Shirley Rogers o Gyrfa Cymru i’r cyfarfod. Bu’r
Aelodau’n holi’r tystion. Camau i’w cymryd: Cytunodd Gyrfa
Cymru i ddarparu ffigur ynghylch faint o Brentisiaethau y maent wedi’u
hysbysebu dros y blynyddoedd ac o fewn pa faes. Cytunodd Gyrfa
Cymru i ddarparu y nifer o leoliadau Prentisiaethau yng Nghymru fel canran o’r
swyddi gwag y rhoddwyd gwybod iddynt amdanynt. Cytunodd Gyrfa
Cymru i ddarparu ystadegau ynghylch i ble mae pobl ifanc 16, 17 ac 18 oed yn
mynd iddynt yn ôl sir yng Nghymru. |
|
(10.15 - 11.00) |
Ymchwiliad i brentisiaethau yng Nghymru - Sesiwn dystiolaeth Papur 2 Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru Iestyn Davies – Pennaeth Materion Allanol Joshua Miles – Cynghorydd Polisi Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Croesawodd y
Cadeirydd Iestyn Davies a Joshua Miles o Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru. Bu’r
Aelodau’n holi’r tystion. Camau i’w cymryd: Cytunodd y
Ffederasiwn Busnesau Bach i ddarparu unrhyw ffigurau i’r Pwyllgor am gyfran y Prentisiaid
sy’n mynd ymlaen i sicrhau gwaith llawn-amser ar ôl cwblhau eu
prentisiaethau. |
|
(11.00 - 12.00) |
Ymchwiliad i brentisiaethau yng Nghymru - Sesiwn dystiolaeth Papur 3 e-skills UK Peter Sishton – Rheolwr Cymru Mel Welch – Rheolwr Llwybrau Papur 4 Cyngor Gofal Cymru Roberta Hayes – Cyfarwyddwr Dysgu a Datblygu Jacky Drysdale – Rheolwr Cyflenwad Dysgu Addysg Bellach Papur 5 Sgiliau Ynni a Chyfleustodau (Cymru) Aled Davies – Rheolwr Cymru, Sgiliau a Chyfleustodau Helen White – Rheolwr Prentisiaethau Dogfennau ategol:
Cofnodion: Croesawodd y
Cadeirydd Peter Sishton a Mel Welch o e-skills UK; Roberta Hayes a Jacky
Drysdale o Gyngor Gofal Cymru; ac Aled Davies a Helen White o Sgiliau Ynni a
Chyfleustodau (Cymru) i’r cyfarfod. Bu’r Aelodau’n holi’r tystion. Camau i’w cymryd: Cytunodd e-skills
i ddarparu gwybodaeth am nifer y cwmnïau sy’n noddi prentisiaethau lefel uchel
(ee lefel 3). |
|
Trawsgrifiad |