Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gareth Price
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad
o’r cyfarfod (PDF 377KB) Gweld
fel HTML (394KB) |
||
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Cafwyd
ymddiheuriadau gan Jeff Cuthbert AC, Dafydd Elis-Thomas AC a Gwenda Thomas AC. |
||
(09.30-10.15) |
Datganoli Ardrethi Busnes i Gymru – Sefydliad Ardrethu a Phrisio Refeniw David Magor, Prif Weithredwr, y Sefydliad Ardrethu a Phrisio Refeniw Janet Alexander, Rheolwr Gwasanaethau Proffesiynol, y Sefydliad Ardrethu a
Phrisio Refeniw Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Atebodd Janet Alexander a David Magor gwestiynau gan
aelodau’r Pwyllgor. 2.2 Cytunodd David Magor i roi copi i'r Pwyllgor o'r
adroddiad a gynhyrchwyd gan y Sefydliad Ardrethu a Phrisio Refeniw ar strydoedd
mawr rhithwir. |
|
(10.30-11.15) |
Datganoli Ardrethi Busnes i Gymru – Ffederasiwn y Busnesau Bach Dr Rachel Bowen, Rheolwr Polisi, Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru Rhodri Evans, Uwch-ymgynghorydd Cyfathrebu, Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru Rhian Murphy, Rheolwr Gyfarwyddwr, SlideFold UK Ltd. Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Atebodd Rachel Bowen, Rhodri Evans and Rhian Murphy
gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor. |
|
(11.15-12.15) |
Datganoli Ardrethi Busnes i Gymru – Llywodraeth Cymru a CBI Cymru Edwina Hart AC, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth Chris Sutton, Cadeirydd, Cydffederasiwn Diwydiant Prydain Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Atebodd Edwina Hart AC, Gweinidog yr Economi,
Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, a Chris Sutton gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor. 4.2 Cytunodd y Gweinidog i adrodd yn ôl i'r Pwyllgor wedi
iddi gyfarfod ag awdurdodau lleol i drafod y modd y maent yn dosbarthu
cronfeydd rhyddhad caledi. 4.3 Cytunodd y Gweinidog i rannu'r data sy'n cael eu
casglu ar hyn o bryd ynghylch asesu a chasglu ardrethi busnes, ac i ddarparu
gwybodaeth ynghylch a oes unrhyw gynlluniau i gasglu rhagor o wybodaeth, sy'n
fwy cywir, yn y dyfodol. |
|
Papurau i’w nodi |
||
Cynllunio ac Ariannu Trafnidiaeth Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.1.1 Nodwyd y papur gan y Pwyllgor. |
||
Horizon 2020 ac Erasmus+ Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.2.1 Nodwyd y papur gan y Pwyllgor. |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod a dechrau'r cyfarfod nesaf. Cofnodion: 6.1 Cytunodd y Pwyllgor i wahardd y cyhoedd o weddill y
cyfarfod a dechrau’r cyfarfod nesaf. |
||
(12.15-12.20) |
Gwaddol Pwyllgorau’r Pedwerydd Cynulliad Cofnodion: 7.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y llythyr drafft a fyddai'n
cael ei anfon at y Pwyllgor Cyllid. |