Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd
Cyswllt: Gareth Price
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(10:00 - 10:05) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelodau ac aelodau’r cyhoedd i’r cyfarfod. |
|
(10:00 - 11:00) |
Buddsoddi i Arbed - Tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru FIN(4) 16-12 – Papur 1 – Llywodraeth Cymru Jane Hutt, y Gweinidog dros Gyllid ac Arweinydd y Tŷ Richard
Clarke, Pennaeth y Uned Buddsoddi i Arbed Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Croesawodd y Pwyllgor Jane Hutt, y
Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ;
Jeff Andrews, Cynghorydd Arbenigol; a Richard Clarke, Pennaeth yr Uned
Buddsoddi i Arbed. 2.2 Craffodd yr
Aelodau ar waith y Gweinidog. Camau Gweithredu: Cytunodd Llywodraeth
Cymru i ddarparu: ·
Rhagor o wybodaeth
ar gynnydd Llywodraeth Cymru o ran gweithredu’r saith argymhelliad a ddeilliodd
o werthusiad interim Buddsoddi i Arbed. ·
Tabl yn amlinellu
cyfanswm yr arbedion sydd wedi’u cyflawni gan brosiectau ers rhoi’r rhaglen
Buddsoddi i Arbed ar waith. ·
Tabl o’r holl
ad-daliadau a wnaed gan brosiectau Buddsoddi i Arbed ers rhoi’r rhaglen ar
waith. ·
Dadansoddiad
blynyddol o’r prosiectau a gafodd eu cyhoeddi ym mhob rownd Buddsoddi i Arbed
a’r dyfarniadau prosiect a gafodd eu cynnwys ym mhob dyraniad o’r gyllideb. |
|
Papurau i'w nodi FIN(4) 19-12 – Papur 2 – Goblygiadau ariannol y Bil Safleoedd Rheoleiddiedig Cartrefi Symudol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Nododd y
Pwyllgor y papur ar oblygiadau ariannol y Bil Safleoedd Rheoleiddiedig Cartrefi
Symudol a chytunodd y byddai’r Cadeirydd yn ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor
Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn pwysleisio pwysigrwydd gwybodaeth
ariannol gadarn mewn perthynas â deddfwriaeth newydd. 3.2 Nododd y
Pwyllgor gofnodion y cyfarfod blaenorol. |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Eitemau 5 a 6. Cofnodion: Eitemau 5 a 6. |
||
(11:00 - 11:15) |
Buddsoddi i Arbed - Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 5.1 Trafododd y
Pwyllgor y dystiolaeth a gafodd ar yr ymchwiliad i Fuddsoddi i Arbed. |
|
(11:15 - 12:00) |
Effeithiolrwydd Cyllid Strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru Cofnodion: 6.1 Cytunodd y
Pwyllgor i ohirio ystyried yr adroddiad drafft ar Effeithiolrwydd Cyllid
Strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru tan ei gyfarfod ar 21 Tachwedd 2012. |
|
Trawsgrifiad |