Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd

Cyswllt: Gareth Price 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

(08:30)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod.

 

(08:30)

2.

Papurau i’w nodi

Cais am ragor o wybodaeth gan Gomisiwn y Cynulliad yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 3 Hydref 2013

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Nodwyd y papurau.

 

(8:30 - 9:00)

3.

Y Bil Rheoli Ceffylau (Cymru)

Alun Davies AC, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd

Julia Hill, Gwasanaethau Cyfreithiol, Tim Amaeth a Materion Gwledig

Fiona Leadbitter, Swyddog Polisi, Tim Polisi Ceffylau

Cofnodion:

3.1 Cafodd y Pwyllgor bapur briffio gan Alun Davies AC, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd, am y Bil Rheoli Ceffylau (Cymru).

 

3.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog, gan nodi pryderon y Pwyllgor ynghylch y broses.

 

(09:00-10:00)

4.

Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2014-15 - Tystiolaeth gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC), Community Links a Gofal a Thrwsio

FIN(4)17-13 Paper 1

FIN(4)17-13 Paper 2

FIN(4)17-13 Paper 3

 

Gareth Coles, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru

Chris Jones, Gofal a Thrwsio

David Robinson, Community Links

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gareth Coles, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Chris Jones, Gofal a Thrwsio, a David Robinson, Community Links, ynghylch cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2014-15.

 

4.2 Cytunodd Chris Jones (Gofal a Thrwsio) i anfon nodyn ynghylch sut yr aed ati i bennu’r cyfrifiad ar gyfer y Rhaglen Addasiadau Brys.

 

4.3 Cytunodd Gareth Coles (CGGC) i anfon nodyn yn cynnwys enghreifftiau o brosiectau gwariant ataliol yn y trydydd sector.

 

4.4 Cytunodd David Robinson (Community Links) i anfon manylion adroddiadau sydd wedi edrych ar brosiectau gwariant ataliol yn y trydydd sector.

 

 

(10:00-11:00)

5.

Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2014-15 - Tystiolaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

FIN(4)17-13 Paper 4

 

Y Cynghorydd Anthony Hunt, Aelod Cabinet dros Gyllid, Cyngor Bwrdeistref Sirol Tor-faen, a Dirprwy Lefarydd ar Gyllid Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Ness Young, Cyfarwyddwr Cyllid, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Jon Rae, Cyfarwyddwr Adnoddau, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Cynghorydd Anthony Hunt, Aelod Cabinet dros Gyllid, Cyngor Sir Torfaen a Dirprwy Lefarydd CLlLC ar Gyllid, Ness Young, Cyfarwyddwr Cyllid, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a Jon Rae, Cyfarwyddwr Adnoddau, CLlLC, ynghylch cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2014-15.

 

5.2 Cytunodd CLlLC i anfon nodyn i’r Pwyllgor yn cynnwys enghreifftiau o’r arfer gorau o ran cydgynhrychu.

 

(11:00-12:00)

6.

Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2014-15 - Tystiolaeth gan Fyrddau Iechyd Lleol

FIN(4)17-13 Paper 5

FIN(4)17-13 Paper 6

 

Geoff Lang, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Gofal Sylfaenol, Cymunedol ac Iechyd Meddwl, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Adam Cairns, Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Geoff Lang, Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Gofal Sylfaenol, Cymunedol ac Iechyd Meddwl, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ac Adam Cairns, Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, ynghylch cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2014-15.

 

(12:00)

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

Eitem 8.

 

Cofnodion:

7.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(12:00-12:30)

8.

Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2014-15: Trafod y dystiolaeth a gafwyd

Cofnodion:

8.1 Aeth yr Aelodau ati i drafod y dystiolaeth a gafwyd a’r meysydd yr oeddent yn dymuno eu trafod gyda’r Gweinidog Cyllid mewn perthynas â chyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2014-15 pan fyddai’n dychwelyd i’r cyfrafod Pwyllgor ar 23 Hydref.