Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd

Cyswllt: Bethan Davies 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

(10:00)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.

 

1.2        Croesawodd y Cadeirydd Alun Ffred Jones i'r Pwyllgor.

 

 

(10:00 - 10:10)

2.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Nodwyd y papurau.

 

2a

Cyllido Addysg Uwch: 2.1 Gwybodaeth ychwanegol gan Addysg Uwch Cymru:

Dogfennau ategol:

2b

Cyllido Addysg Uwch: Gwybodaeth ychwanegol gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru

Dogfennau ategol:

2c

Cyllido Addysg Uwch: Gwybodaeth ychwanegol (2) gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru

Dogfennau ategol:

(10:10)

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

Eitemau 4, 5, 6, 7 ac 8

 

Cofnodion:

3.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(10:10 - 10:55)

4.

Cyllid Cymru

Cofnodion:

4.1 Rhannodd yr Aelodau eu canfyddiadau yn dilyn y digwyddiad brecwast gyda busnesau bach a chanolig sydd wedi ymwneud â Chyllid Cymru. Ar y cyfan, roedd adborth yr Aelodau yn gadarnhaol.

 

4.2 Ystyriodd yr Aelodau dystion posibl ar gyfer y sesiynau tystiolaeth lafar.

 

(10:55 - 11:25)

5.

Cymorth i Dalu'r Dreth Gyngor: Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru

FIN(4)-01-14 (papur 1)

 

Cofnodion:

5.1 Gan fod y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn ystyried y papur ymgynghori hwn, cytunodd y Pwyllgor na fyddent yn cyflwyno ymateb.

 

(11:25 - 11:35)

6.

Bil Drafft Cymru: Adroddiad gan y Cadeirydd

Cofnodion:

6.1 Rhoddodd y Cadeirydd gyflwyniad llafar i'r Pwyllgor yn dilyn y cyfarfod o'r Pwyllgor Materion Cymreig y bu hi iddo ar 20 Ionawr.

 

(11:35 - 11:40)

7.

Ardaloedd Menter: Crynhoad i'r Cyfryngau

FIN(4)-01-14 (papur 2)

 

 

Cofnodion:

7.1 Nodwyd y papur.

 

(11:40 - 12:00)

8.

Blaenraglen waith: Diweddariad

FIN(4)-01-14 (papur 3)

 

Cofnodion:

8.1 Nodwyd y papur.