Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd

Cyswllt: Bethan Davies 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1       Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.

 

1.2       Cafwyd ymddiheuriadau gan Ann Jones. Roedd Sandy Mewies yn dirprwyo ar ei rhan.

 

(09:00-10:00)

2.

Cyllideb Atodol Llywodraeth Cymru 2013-2014

FIN(4)-03-14 (papur 1)

FIN(4)-03-14 (papur 2)

 

Briff Gwasanaeth Ymchwil

 

Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid

Lynne Hamilton - Cyfarwyddwr, Cyllid a Materion Masnachol, Llywodraeth Cymru

Jo Salway - Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyllidebu Strategol, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Cyllid ynghylch Cyllideb Atodol Llywodraeth Cymru 2013-14.

 

2.2 Cytunodd y Gweinidog Cyllid i ysgrifennu at y Pwyllgor yn amlinellu sut mae hi'n bwriadu ymdrin â'r pryderon a fynegwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru yn ei lythyr i'r Ysgrifennydd Parhaol ar 13 Tachwedd 2013. Cytunodd y Gweinidog i baratoi a chyflwyno adroddiadau blynyddol i'r Swyddfa Gyflwyno ar y cynllun Buddsoddi i Arbed, esbonio ystyr rhyddhau'n gynnar a nodi'r arbedion y mae'n eu disgwyl o dan y cynllun yn glir. Cytunodd hefyd i gadarnhau dyraniad y gyllideb sydd i'w weinyddu o dan y Gronfa Cymorth Dewisol.

 

(10:00-11:00)

3.

Bil Drafft Cymru: Tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru

FIN(4)-03-14 (papur 3)

 

Briff Gwasanaeth Ymchwil

 

Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid

Gareth Morgan -  Dirprwy Gyfarwyddwr Dros Dro, Diwygio Ariannol, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Cyllid ynghylch Bil drafft Cymru.

 

3.2 Cytunodd y Gweinidog Cyllid i anfon y Papur Gorchymyn at y Pwyllgor, pan fydd Llywodraeth y DU wedi ei gyhoeddi, er mwyn i'r Pwyllgor ystyried y papur a gwneud sylwadau yn ei gylch, gan gynnwys yr amserlenni tebygol o ran gweithredu'r Bil.

 

(11:00)

4.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Nodwyd y papurau.

 

4a

Comisiwn y Cynulliad: Cyllideb Atodol 2013-14: Llythyr gan Angela Burns AC (12 Chwefror 2014)

Dogfennau ategol:

4b

Bil Drafft Cymru: Llythyr gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru (14 Chwefror 2014)

Dogfennau ategol:

(11:00)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

Eitemau 6, 7, 8 a 9

 

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(11:10-11:35)

6.

Cyllideb Atodol Llywodraeth Cymru 2013-2014: Ystyried y dystiolaeth

Cofnodion:

6.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd gan y Gweinidog Cyllid ynghylch Cyllideb Atodol Llywodraeth Cymru 2013-14 a chytunodd i ystyried adroddiad y Pwyllgor y tu allan i'r Pwyllgor oherwydd materion o ran amseru.

 

(11:35-12:00)

7.

Bil Drafft Cymru: Ystyried y dystiolaeth

Cofnodion:

7.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd gan y Gweinidog Cyllid ynghylch Bil drafft Cymru a chytunodd i'r Cadeirydd ysgrifennu at Ysgrifennydd Gwladol Cymru ynghylch y pwyntiau a godwyd a hefyd i wahodd Prif Ysgrifennydd y Trysorlys i'r Pwyllgor.

 

 

(12:00-12:15)

8.

Y Dull o Weithio wrth Graffu ar y Gyllideb: Gwaith craffu effeithiol ar y Gyllideb gan Bwyllgorau

FIN(4)-03-14 (papur 4)

Cofnodion:

8.1 Ystyriodd y Pwyllgor y llythyr gan y Llywydd a chytunodd y Cadeirydd i ymateb ar sail y drafodaeth.

 

(12:15-12:30)

9.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2014-2015: Adroddiad cynnydd

FIN(4)-03-14 (papur 5)

 

Cofnodion:

9.1 Nododd y Pwyllgor y papur a chytunodd i gael y newyddion diweddaraf yn chwarterol os bydd y sefyllfa'n aros yr un fath. Os bydd cynnydd yn hynny o beth, cytunodd i gael y newyddion diweddaraf yn fisol.