Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Davies 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor.  Cafwyd ymddiheuriadau gan Ann Jones a chan Peter Black ar gyfer eitemau 1-5.

 

2.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Nodwyd y papurau.

 

2.1

Y Bil Addysg Uwch (Cymru): Llythyr gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau (30 Mehefin 2014)

Dogfennau ategol:

2.2

Ymchwiliad i'r arfer gorau mewn prosesau cyllidebol: Gwybodaeth ychwanegol gan y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth

Dogfennau ategol:

(09:00-09:45)

3.

Cyllideb Ddrafft Comisiwn y Cynulliad 2014-15

FIN(4)-14-14 (papur 1)

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Rhodri Glyn Thomas AC - Comisiynydd y Cynulliad sy'n gyfrifol am swyddogaethau a pholisi’r Comisiwn mewn perthynas â’r ieithoedd swyddogol, y gwasanaethau cyfreithiol a Rhyddid Gwybodaeth

Craig Stephenson - Cyfarwyddwr Gwasanaethau Comisiwn Dros Dro, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Nicola Callow - Pennaeth Cyllid, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Rhodri Glyn Thomas AC, Comisiynydd y Cynulliad sy'n gyfrifol am swyddogaethau a pholisi ieithoedd swyddogol y Comisiwn, gwasanaethau cyfreithiol a Rhyddid Gwybodaeth, Craig Stephenson, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Comisiwn dros dro, Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Nicola Callow, Pennaeth Cyllid, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ynghylch cyllideb ddrafft Comisiwn y Cynulliad 2014-15.

 

(09:45-10:30)

4.

Cyllideb Ddrafft Comisiwn y Cynulliad 2014-15

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Peter Black AC - Comisiynydd y Cynulliad sy'n gyfrifol am TGCh, darlledu ac e-ddemocratiaeth; ystâd y Cynulliad a chynaliadwyedd.

Dave Tosh - Cyfarwyddwr TGCh, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Nicola Callow - Pennaeth Cyllid, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

 

 

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Peter Black AC, Comisiynydd y Cynulliad sy'n gyfrifol am TGCh, darlledu ac e-ddemocratiaeth, ystâd y Cynulliad a chynaliadwyedd, Dave Tosh, Cyfarwyddwr TGCh, Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Nicola Callow, Pennaeth Cyllid, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ynghylch cyllideb ddrafft Comisiwn y Cynulliad 2014-15.

 

(10:30)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

Eitemau 6, 7 ac 8

 

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(10:30-10:45)

6.

Y Bil Trais ar sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru): Goblygiadau Ariannol y Bil

PAC(4)-14-14(papur 2)

Cofnodion:

6.1 Trafododd yr Aelodau y papur briffio ar y Bil Trais ar sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru), gan gytuno na fyddent yn gwahodd y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth i ateb cwestiynau ar oblygiadau ariannol y Bil ar y cam hwn, ond y byddent yn ysgrifennu ati i ofyn am eglurder ynghylch nifer o faterion.

6.2 Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at Christine Chapman AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, i nodi nad yw'r Pwyllgor Cyllid am wahodd y Gweinidog i un o gyfarfodydd y Pwyllgor ar y cam hwn, ond y byddai'n croesawu'r wybodaeth ddiweddaraf am oblygiadau ariannol y Bil.

 

(10:45-11:00)

7.

Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru): Goblygiadau Ariannol y Bil

FIN(4)-14-14(papur 3)

Cofnodion:

7.1 Trafododd yr Aelodau y papur briffio ar Fil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), gan gytuno na fyddent yn gwahodd y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi i ateb cwestiynau ynghylch goblygiadau ariannol y Bil, ond y byddent yn ysgrifennu ato i ofyn am eglurder ynghylch nifer o faterion.

7.2 Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at Alun Ffred Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd, i nodi nad yw'r Pwyllgor Cyllid am wahodd y Gweinidog i un o gyfarfodydd y Pwyllgor ar y cam hwn, ond y byddai'n croesawu'r wybodaeth ddiweddaraf am oblygiadau ariannol y Bil.

 

(11:00-11:30)

8.

Ymchwiliad i'r arfer gorau mewn prosesau cyllidebol: Trafod yr adroddiad drafft

FIN(4)-14-14 (papur 4)

 

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft, gan gytuno arno yn amodol ar rai mân newidiadau. Nodwyd y byddai'n cael ei gyhoeddi ar 24 Gorffennaf.