Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd
Cyswllt: Bethan Davies
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod. |
||
(10:30) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor. Ni chafwyd ymddiheuriadau. |
|
(10:30) |
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Nodwyd y
papurau. |
|
(10:35-12:00) |
Ymchwiliad i'r arfer gorau mewn prosesau cyllidebol: Sesiwn dystiolaeth 5 Y
Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA) FIN(4)-12-14
(papur 1) Don
Peebles - Pennaeth CIPFA yr Alban Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Don Peebles, Pennaeth Sefydliad
Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth yr Alban, ynghylch yr ymchwiliad
i'r arfer gorau mewn prosesau cyllidebol. 3.2 Cytunodd Don Peebles i anfon crynodeb ynghylch yr arferion gorau yn
Seland Newydd a Virginia a hefyd i anfon nodyn ar y gwaith o sefydlu Trysorlys
yr Alban. |
|
(12:00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Eitemau 5 & 6 Cofnodion: 4.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(12:00-12:15) |
Ymchwiliad i'r arfer gorau mewn prosesau cyllidebol: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 5.1 Ystyriodd yr Aelodau'r dystiolaeth a
gafwyd fel rhan o'i ymchwiliad i arfer gorau mewn prosesau cyllidebol. |
|
(12:15-12:30) |
Swyddfa Archwilio Cymru: Caffael archwilwyr allanol FIN(4)-12-14(papur 2) Kevin Thomas – Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol, Swyddfa Archwilio Cymru Laurie Davies – Rheolwr Gwasanaethau Busnes, Swyddfa Archwilio Cymru Cofnodion: 6.1 Disgrifiodd Kevin Thomas, Swyddfa Archwilio Cymru, y dull o weithio y
mae Swyddfa Archwilio Cymru yn ei gynnig o ran caffael archwilydd allanol ar
gyfer Swyddfa Archwilio Cymru. 6.2 Dywedodd y Pwyllgor wrth Swyddfa Archwilio Cymru y byddai'n trafod y
dull hwnnw ac yn ysgrifennu at y Swyddfa gyda'i benderfyniad. |
|
(12:30) |
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Cymru. Llythyr gan y Gweinidog Cyllid (18 Mehefin 2014) FIN(4)-12-14(papur 3) Cofnodion: 7.1 Nododd yr Aelodau'r llythyr. |