Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bethan Davies
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad |
||
(09:00) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1
Croesawodd
y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor. 1.2
Croesawodd
y Cadeirydd Nick Ramsay i'r Pwyllgor fel Aelod a diolchodd i Paul Davies am ei
waith, gan hysbysu’r Aelodau y byddai'n ysgrifennu ato. |
|
(09:00- 09:05) |
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Nodwyd y
papurau. |
|
Cyllid addysg uwch: Llythyr gan Darren Millar AC (30 Gorffennaf 2014) Dogfennau ategol: |
||
Y Bil Addysg Uwch (Cymru): Llythyr gan Addysg Uwch Cymru (31 Gorffennaf 2014) Dogfennau ategol: |
||
Adroddiad Alldro Llywodraeth Cymru 2012-13: Llythyr gan y Gweinidog Cyllid (5 Awst 2014) Dogfennau ategol: |
||
Y Bil Trais ar sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru): Llythyr gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth (29 Awst 2014) Dogfennau ategol: |
||
(09:05-10:05) |
Ymchwiliad i'r arferion gorau o ran y gyllideb - Rhan II: Sesiwn dystiolaeth 1 Fideogynadledda FIN(4)-15-14
papur 1 Papur
briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil Laura van
Geest - Cyfarwyddwr, Canolfan CPB yr Iseldiroedd ar gyfer Dadansoddi Polisi
Economaidd Suyker Wim
- Arweinydd Rhaglenni, Canolfan CPB yr Iseldiroedd ar gyfer Dadansoddi Polisi
Economaidd Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Laura van Geest,
Cyfarwyddwr, a Wim Suyker, Arweinydd y Rhaglen yn y Biwro CPB yr
Iseldiroedd ar gyfer Dadansoddi Polisi Economaidd, yn Rhan II o’r ymchwiliad
i'r arfer gorau mewn prosesau cyllidebol |
|
(10:15-11:15) |
Ymchwiliad i'r arferion gorau o ran y gyllideb - Rhan II: Sesiwn dystiolaeth 2 Papur
briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil Robert
Chote - Cadeirydd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Robert Chote,
Cadeirydd y Swyddfa Cyfrifoldeb y Gyllideb, yn Rhan II o’r ymchwiliad i'r arfer gorau mewn prosesau cyllidebol. |
|
(11:15) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol: Eitemau 6,
7, 8 a 9, ac Eitem 1 y cyfarfod a gynhelir ar 2 Hydref 2014 Cofnodion: 5.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(11:15-11:45) |
Ymchwiliad i'r arfer gorau mewn prosesau cyllidebol - Rhan II: Trafod y dystiolaeth a gafwyd Cofnodion: 6.1 Trafododd yr Aelodau'r dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
(11:45-12:00) |
Y Bil Addysg a Chynhwysiant Ariannol (Cymru): Goblygiadau Ariannol y Bil FIN(4)-15-14
papur 2 Cofnodion: 7.1 Trafododd
yr Aelodau'r papur briffio ar y Bil Addysg a Chynhwysiant Ariannol (Cymru), gan
gytuno y byddent yn gwahodd Bethan Jenkins AC, yr Aelod sy’n Gyfrifol, i ateb
cwestiynau ar oblygiadau ariannol y Bil fel y mae ar hyn o bryd. 7.2 Cytunodd Ann Jones i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r
Pwyllgor ar y gwaith craffu ariannol ar y Bil wrth i’r Pwyllgor Plant, Pobl
Ifanc ac Addysg graffu arno yng Nghyfnod 1. |
|
(12:00-12:15) |
Swyddfa Archwilio Cymru: Adroddiad ar ganfyddiadau'r archwiliad o gyfrifon 2013 - 2014 FIN(4)-15-14
papur 3 Cofnodion: 8.1 Trafododd
yr Aelodau'r papur gan RSM Tenon ar Adroddiadau Blynyddol Swyddfa Archwilio
Cymru a Chyfrifon 2013-14 a chytunwyd nad oeddent am i gynrychiolydd o RSM
Tenon fod yn bresennol wrth i’r Pwyllgor drafod Adroddiadau Blynyddol Swyddfa
Archwilio Cymru a Chyfrifon 2013-14 ym mis Tachwedd. 8.2 Bydd y Clerc yn ysgrifennu at RMS Tenon yn rhoi
gwybod am y penderfyniad hwn, gan hefyd wneud cais am grynodeb byr o'r papur. |
|
(12:15-12:30) |
Y flaenraglen waith FIN(4)-15-14
papur 4 Cofnodion: 9.1 Nododd yr Aelodau'r rhaglen waith. Trafododd yr
Aelodau’r posibilrwydd o ymweld â Senedd yr Alban a bydd yn rhoi gwybod i'r
Clerc os ydynt ar gael. Awgrymodd yr Aelodau hefyd feysydd gwaith ar gyfer
ymholiadau yn y dyfodol a fydd yn cael ei ystyried yn nes ymlaen. |