Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd

Cyswllt: Bethan Davies 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

(09:00)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor.

 

(09:00- 10:00)

2.

Ymchwiliad i arferion gorau o ran y gyllideb - Rhan II: Sesiwn dystiolaeth 3

FIN(4)-19-14 papur 1

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Yr Athro Max Munday – Cyfarwyddwr Uned Ymchwil Economi Cymru, Ysgol Fusnes Caerdydd

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Athro Max Munday, Cyfarwyddwr Uned Ymchwil Economi Cymru, Ysgol Fusnes Caerdydd, ynghylch rhan II o'r ymchwiliad i arferion gorau o ran y gyllideb.

 

(10:00-11:00)

3.

Ymchwiliad i arferion gorau o ran y gyllideb - Rhan II: Sesiwn dystiolaeth 4

FIN(4)-19-14 papur 2

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Mike Usher - Arweinydd y Sector, Iechyd a Llywodraeth Ganolog, Swyddfa Archwilio Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Mike Usher, Arweinydd Sector, Iechyd a Llywodraeth Ganolog, Swyddfa Archwilio Cymru ynghylch rhan II o'r ymchwiliad i arferion gorau o ran y gyllideb.

 

3.2 Cytunodd Mike Usher i gadarnhau pwy ar hyn o bryd sy’n gyfrifol am gasglu treth tirlenwi a sut y mae amcangyfrifon cywir o refeniw ar gyfer Ardrethu Annomestig wedi cael eu cymharu â refeniw gwirioneddol.

 

 

(11:00)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:

Eitemau 5, 6 a 7

 

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(11:00-11:15)

5.

Ymchwiliad i arferion gorau o ran y gyllideb - Rhan II: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

5.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(11:15-11:30)

6.

Y Bil Cynllunio (Cymru): Goblygiadau Ariannol y Bil

FIN(4)-19-14 papur 3

Cofnodion:

6.1 Ystyriodd yr Aelodau'r papur briffio am y Bil Cynllunio (Cymru) a chytunwyd y byddent yn gwahodd Carl Sargeant AC, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, i drafod goblygiadau ariannol y Bil.  

 

 

(11:30-12:30)

7.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015-16: Trafod y materion allweddol

FIN(4)-19-14 papur 4

 

Cofnodion:

7.1 Trafododd yr Aelodau'r prif faterion.