Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Tom Jackson 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad ac ymddiheuriadau

Cofnodion:

 

1.1 Croesawodd y Cadeirydd aelodau’r pwyllgor a’r cyhoedd i gyfarfod cyntaf y Pwyllgor Cyllid yn y Pedwerydd Cynulliad.

 

 

2.

Cyllideb Atodol 2011-12 – Y Gweinidog Cyllid

Jane Hutt AC, y Gweinidog Cyllid

Andrew Jeffreys, Pennaeth Cyllidebu Strategol – Cynllunio Strategol, Cyllid a Pherfformiad

Jeff Andrews, Cynghorydd Polisi Arbenigol, Cynllunio Strategol, Cyllid a Pherfformiad

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

 

Craffu ar waith Llywodraeth Cymru

2.1 Croesawodd y Pwyllgor Jane Hutt AC, y Gweinidog Cyllid; Andrew Jeffreys, Pennaeth Cyllidebu Strategol, yr Adran Cynllunio Strategol, Cyllid a Pherfformiad; a Jeff Andrews, Cynghorydd Polisi Arbenigol, yr Adran Cynllunio Strategol, Cyllid a Pherfformiad.  

2.2 Holodd y Pwyllgor y Gweinidog.

 

2.3 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu:

 

·         rhagor o fanylion am y diwygiadau i’r dull o ymdrin â’r cyfrifon, a arweiniodd at ostyngiad o £92.4 miliwn mewn perthynas â darparu benthyciadau i fyfyrwyr;

·         rhagor o fanylion am y broses o drosglwyddo £18.6 miliwn o Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig i Lywodraeth Cymru mewn perthynas ag iechyd a lles anifeiliaid;

·         manylion symiau canlyniadol yn deillio o gyllideb 2011 y DU, gan gynnwys y penderfyniadau polisi a arweiniodd atynt, a ffigurau dangosol y symiau canlyniadol refeniw a chyfalaf ar gyfer y blynyddoedd sy’n weddill o’r arolwg o wariant;

·         manylion fesul rhanbarth o gostau etholiad 2011 a chymhariaeth â chostau rhanbarthol etholiadau blaenorol y Cynulliad, gan gynnwys costau cynnal y refferendwm yn 2011; 

·         manylion y gostyngiadau gwirioneddol mewn arian refeniw a chyfalaf yn ffigurau dangosol y gyllideb atodol ar gyfer y ddwy flynedd nesaf; a

·         rhagor o fanylion am yr amserlen ar gyfer dyrannu’r Gronfa Gyfalaf a Gedwir yn Ganolog.

 

3.

Cyllideb Atodol 2011-2012 – Ystyried y dystiolaeth

Cofnodion:

 

3.1 Trafododd y Pwyllgor y prif faterion a gododd o’i waith o graffu ar Gyllideb Atodol 2011-12.

Trawsgrifiad