Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd
Cyswllt: Bethan Davies
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod. |
||
(09:30) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod. |
|
(09:30-10:45) |
Ymchwiliad i Gyllido Addysg Uwch: Tystiolaeth gan Addysg Uwch Cymru a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru FIN(4)-21-13 (papur 1) FIN(4)-21-13 (papur 2) Yr Athro John Hughes, Is-Ganghellor, Prifysgol Bangor Amanda Wilkinson, Cyfarwyddwr Addysg Uwch Cymru Ben Arnold, Cynghorwr Polisi, Addysg Uwch Cymru Dr David Blaney, Prif Weithredwr, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) Bethan Owen, Cyfarwyddwr Ymgysylltu Sefydliadol, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) Celia Hunt, Cyfarwyddwr Sgiliau, Addysg a Chyllido, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan yr Athro John Hughes, Is-ganghellor Prifysgol Bangor,
Amanda Wilkinson, Cyfarwyddwr Addysg Uwch Cymru, Ben Arnold, Cynghorwr Polisi i
Addysg Uwch Cymru, Dr David
Blaney, Prif Weithredwr Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, Bethan Owen,
Cyfarwyddwr Ymgysylltu Sefydliadol Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, a Celia
Hunt, Cyfarwyddwr Sgiliau, Addysg a Chyllid, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru,
ynghylch cyllido addysg uwch. Camau
gweithredu: 2.1 Cytunodd
Addysg Uwch Cymru i anfon gwybodaeth ychwanegol ynghylch: ·
Data ar gymhariaethau rhanbarthol ·
Nifer y myfyrwyr AAB neu well sy’n astudio ym Mhrifysgol
Bangor ·
Faint yn llai o fyfyrwyr sy’n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ·
Data ar werth am arian o ran myfyrwyr sy’n astudio yng
Nghymru 2.2 Cytunodd
Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i anfon gwybodaeth ychwanegol ynghylch: ·
Y tueddiadau o ran myfyrwyr o Gymru sy’n astudio yn Lloegr
(pan fo’r wybodaeth ar gael) ·
Nifer y myfyrwyr sy’n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg |
|
(10:55-11:35) |
Ymchwiliad i Gyllido Addysg Uwch: Tystiolaeth gan Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr FIN(4)-21-13 (papur 3) Stephanie Lloyd, Llywydd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, Cymru Keiron Rees, Swyddog Polisi a Materion Cyhoeddus, Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan Stephanie Lloyd, Llywydd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr
Cymru a Keiron Rees, Swyddog Polisi a Materion Cyhoeddus, Undeb Cenedlaethol y
Myfyrwyr Cymru, ynghylch cyllido addysg uwch. Camau
gweithredu: 2.1 Cytunodd
Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr Cymru i anfon gwybodaeth ychwanegol ynghylch
dadansoddi gwaith ymchwil sydd i ddod ar gymorth i fyfyrwyr, pan fo hynny ar
gael yn y flwyddyn newydd |
|
(11:35) |
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1 Nodwyd y
papurau. |
|
Cyllideb Ddrafft Comisiwn y Cynulliad 2014-15: Llythyr gan Angela Burns AC FIN(4)-21-13(ptn1) Dogfennau ategol: |
||
(11:35) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Eitemau 6, 7 & 8 Cofnodion: 5.1
Derbyniwyd y cynnig. |
|
(11:40-11:50) |
Ymchwiliad i Gyllido Addysg Uwch: Trafod y dystiolaeth a gafwyd Cofnodion: 6.1 Trafododd
y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd ar gyfer yr ymchwiliad i gyllido addysg uwch. |
|
(11:50-12:05) |
Y Bil Tai (Cymru) FIN(4)-21-13 (papur 4) Cofnodion: 7.1 Nododd y
Pwyllgor y papur a chytunodd i wahodd y Gweinidog Tai ac Adfywio i un o
gyfarfodydd y Pwyllgor fel y gallai’r Aelodau ei holi ynghylch materion
ariannol y Bil. |
|
(12:05 - 12:20) |
Ymateb cychwynnol Llywodraeth y DU i Gomisiwn Silk Rhan 1 FIN(4)-21-13 (papur 5) Cofnodion: 8.1 Nododd y
Pwyllgor y papur a chytunodd i wneud gwaith pellach mewn perthynas â hyn. |