Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd
Cyswllt: Bethan Davies
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod. |
||
(09:30) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod. 1.2 Estynnodd y
Pwyllgor longyfarchiadau i Peter Black AC am ennill y wobr Aelod Cynulliad y
flwyddyn. |
|
(09:30-10:45) |
Ymchwiliad i Gyllido Addysg Uwch: Tystiolaeth gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau Huw
Lewis AC, y Gweinidog Addysg a Sgiliau Neil Surman, Dirprwy
Cyfarwyddwr, Addysg Uwch Chris Jones, Pennaeath Cyllid
Addysg Uwch a Gwella Perfformiad Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau ar
gyllido addysg uwch. |
|
(10:45) |
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Nodwyd y papurau. |
|
Cyllido Addysg Uwch: Gwybodaeth ychwanegol gan Brifysgol Agored Cymru Dogfennau ategol: |
||
(10:45) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Eitem
5. Cofnodion: 4.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(10:45-11:30) |
Ymchwiliad i Gyllido Addysg Uwch: Trafod y dystiolaeth a gafwyd Cofnodion: 5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd ynghylch yr ymchwiliad a
gofynnwyd i'r clercod gael rhagor o wybodaeth am y canlynol: ·
Llyfr benthyciad i fyfyrwyr ·
Nifer y myfyrwyr AAB/ABB sy'n cofrestru gyda phrifysgolion Cymru ·
Ysgrifennu at y Prif Gynghorwr Gwyddonol ynghylch cyllid ar gyfer gwaith
ymchwil |
|
(11:30-12:00) |
Ardaloedd Menter: Trafod Adroddiad y Pwyllgor Cofnodion: 6.1 Trafodwyd yr adroddiad ac awgrymwyd nifer o welliannau. Cytunodd yr
Aelodau i drafod y newidiadau y tu allan i'r Pwyllgor. 6.2 Nododd yr Aelodau eu bwriad i gyhoeddi'r adroddiad cyn y Nadolig a
chytunwyd i wneud cais am ddadl yn y Cyfarfod Llawn. |
|
(12:00-12:30) |
Blaenraglen waith: Gwanwyn 2014 Cofnodion: 7.1 Trafodwyd a nodwyd y flaenraglen waith. |