Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd
Cyswllt: Bethan Davies
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod. |
||
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod. 1.2
Cafwyd ymddiheuriadau gan Ann Jones. Roedd Sandy Mewies yn
dirprwyo ar ei rhan. |
||
(09:00-10:00) |
Cyllideb Atodol Llywodraeth Cymru 2013-2014 FIN(4)-03-14
(papur 1) FIN(4)-03-14
(papur 2) Briff
Gwasanaeth Ymchwil Jane
Hutt, y Gweinidog Cyllid Lynne Hamilton - Cyfarwyddwr,
Cyllid a Materion Masnachol, Llywodraeth Cymru Jo Salway - Dirprwy
Gyfarwyddwr, Cyllidebu Strategol, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Cyllid ynghylch Cyllideb Atodol
Llywodraeth Cymru 2013-14. 2.2 Cytunodd
y Gweinidog Cyllid i ysgrifennu at y Pwyllgor yn amlinellu sut mae hi'n bwriadu
ymdrin â'r pryderon a fynegwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru yn ei lythyr
i'r Ysgrifennydd Parhaol ar 13 Tachwedd 2013. Cytunodd y Gweinidog i baratoi a
chyflwyno adroddiadau blynyddol i'r Swyddfa Gyflwyno ar y cynllun Buddsoddi
i Arbed, esbonio ystyr rhyddhau'n gynnar a nodi'r arbedion y mae'n eu
disgwyl o dan y cynllun yn glir. Cytunodd hefyd i gadarnhau dyraniad y gyllideb
sydd i'w weinyddu o dan y Gronfa Cymorth Dewisol. |
|
(10:00-11:00) |
Bil Drafft Cymru: Tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru FIN(4)-03-14
(papur 3) Briff
Gwasanaeth Ymchwil Jane
Hutt, y Gweinidog Cyllid Gareth Morgan - Dirprwy Gyfarwyddwr Dros Dro, Diwygio
Ariannol, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Cyllid ynghylch Bil drafft Cymru. 3.2 Cytunodd
y Gweinidog Cyllid i anfon y Papur Gorchymyn at y Pwyllgor, pan fydd
Llywodraeth y DU wedi ei gyhoeddi, er mwyn i'r Pwyllgor ystyried y papur a
gwneud sylwadau yn ei gylch, gan gynnwys yr amserlenni tebygol o ran
gweithredu'r Bil. |
|
(11:00) |
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1 Nodwyd y
papurau. |
|
Comisiwn y Cynulliad: Cyllideb Atodol 2013-14: Llythyr gan Angela Burns AC (12 Chwefror 2014) Dogfennau ategol: |
||
Bil Drafft Cymru: Llythyr gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru (14 Chwefror 2014) Dogfennau ategol: |
||
(11:00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Eitemau
6, 7, 8 a 9 Cofnodion: 5.1
Derbyniwyd y cynnig. |
|
(11:10-11:35) |
Cyllideb Atodol Llywodraeth Cymru 2013-2014: Ystyried y dystiolaeth Cofnodion: 6.1 Ystyriodd
y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd gan y Gweinidog Cyllid ynghylch Cyllideb Atodol
Llywodraeth Cymru 2013-14 a chytunodd i ystyried adroddiad y Pwyllgor y tu
allan i'r Pwyllgor oherwydd materion o ran amseru. |
|
(11:35-12:00) |
Bil Drafft Cymru: Ystyried y dystiolaeth Cofnodion: 7.1 Ystyriodd
y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd gan y Gweinidog Cyllid ynghylch Bil drafft
Cymru a chytunodd i'r Cadeirydd ysgrifennu at Ysgrifennydd Gwladol Cymru
ynghylch y pwyntiau a godwyd a hefyd i wahodd Prif Ysgrifennydd y Trysorlys i'r
Pwyllgor. |
|
(12:00-12:15) |
Y Dull o Weithio wrth Graffu ar y Gyllideb: Gwaith craffu effeithiol ar y Gyllideb gan Bwyllgorau FIN(4)-03-14 (papur 4) Cofnodion: 8.1 Ystyriodd
y Pwyllgor y llythyr gan y Llywydd a chytunodd y Cadeirydd i ymateb ar sail y
drafodaeth. |
|
(12:15-12:30) |
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2014-2015: Adroddiad cynnydd FIN(4)-03-14
(papur 5) Cofnodion: 9.1 Nododd y
Pwyllgor y papur a chytunodd i gael y newyddion diweddaraf yn chwarterol os
bydd y sefyllfa'n aros yr un fath. Os bydd cynnydd yn hynny o beth, cytunodd i
gael y newyddion diweddaraf yn fisol. |