Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bethan Davies
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod. |
||
(09:00-09:15) |
Y Bil Safleoedd Carafannau Gwyliau (Cymru): Goblygiadau Ariannol y Bil Cofnodion: Ystyriodd yr Aelodau y papur briffio ar y Bil Safleoedd Carafannau Gwyliau
(Cymru) a chytunwyd na fyddent yn gwahodd yr Aelod sy’n gyfrifol (Darren Millar
AC) i ateb cwestiynau am oblygiadau ariannol y Bil oni bai bod y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a
Llywodraeth Leol yn nodi pryderon yn ystod ei gyfnod o graffu ar y Bil. |
|
(09:15-09:45) |
Cyllido Addysg Uwch: Trafod yr adroddiad drafft FIN(4)-07-14(papur 1) Cofnodion: 2.1 Trafododd y
Pwyllgor yr adroddiad drafft a chymeradwyodd yr adroddiad yn amodol ar rai mân
newidiadau. |
|
(09:45-10:45) |
Swyddfa Archwilio Cymru: Sesiwn friffio ar y trefniadau newydd yn deillio o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 Huw Vaughan Thomas – Archwilydd Cyffredinol Cymru Kevin Thomas – Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol,
Swyddfa Archwilio Cymru Terry Jones – Rheolwr Technegol, Swyddfa Archwilio Cymru Nicola Evans - Rheolwr Cyllid, Swyddfa Archwilio Cymru Cofnodion: 3.1 Rhoddodd Swyddfa Archwilio Cymru wybodaeth i’r Pwyllgor am ei chynllun
ffioedd a graddfeydd y ffioedd hynny. |
|
(11:00) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 4.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod. |
|
(11:00) |
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.1 Nodwyd y
papurau. |
|
Bil Cymru: Llythyr gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru (20 Mawrth 2014) Dogfennau ategol: |
||
Cyllideb Atodol Llywodraeth Cymru 2013-2014: Llythyr gan y Gweinidog Cyllid (14 Ebrill 2014) Dogfennau ategol: |
||
Ymchwiliad i Cyllid Cymru: Gwybodaeth ychwanegol gan Cyllid Cymru (Ebrill 2014) Dogfennau ategol: |
||
Ymchwiliad i Cyllid Cymru: Brecwast Rhanddeiliaid Cyllid Cymru Dogfennau ategol: |
||
(11:05-12:00) |
Ymchwiliad i Cyllid Cymru: Sesiwn dystiolaeth 5 FIN(4)-07014(papur 2) Briff ymchwil Edwina Hart AC - Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth Rob Hunter - Cyfarwyddwr Cyllid a Pherfformiad, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Edwina Hart AC, Gweinidog yr
Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth am yr ymchwiliad i Cyllid Cymru. 6.2 Cytunodd Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i anfon
nodyn ar y canlynol: ·
Canran y busnesau a gyfeiriwyd at Cyllid Cymru o’r sector bancio a
sectorau proffesiynol eraill. ·
Y cylch gorchwyl ar gyfer yr adolygiad a gynhelir gan Robert
Lloyd-Griffiths, a’r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith a gyflawnwyd hyd yma. ·
I anfon copi o’r adroddiad ar gyfraddau llog. ·
Ystadegau o ran y categorïau o fusnesau sydd wedi cael arian gan Gyllid
Cymru. ·
Rhestr sy’n nodi’r ffynonellau arian sy’n cyfrannu at Gyllid Cymru, a’r
enillion a ddisgwylir. |
|
(12:00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Eitem 8 Cofnodion: 7.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(12:05-12:30) |
Ymchwiliad i Cyllid Cymru: Trafod y dystiolaeth a gafwyd Cofnodion: 8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd. |