Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bethan Davies
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad |
||
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr
Aelodau i’r Pwyllgor |
||
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Nodwyd y papurau |
||
(09:30-10:15) |
Swyddfa Archwilio Cymru – ystyried rhestr ffioedd 2014/15 FIN(4)-05-14 (papur 1) Isobel Garner - Cadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru Huw Vaughan Thomas - Archwilydd Cyffredinol Cymru Ann-Marie Harkin - Cyfarwyddwr Grŵp (Adnoddau), Swyddfa Archwilio Cymru Terry Jones - Rheolwr Technegol, Swyddfa Archwilio Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Trafododd y Pwyllgor gynllun Swyddfa Archwilio Cymru i godi
ffioedd ac fe’i cymeradwywyd ar yr amod bod rhai newidiadau technegol ar ôl 1
Ebrill 2014, pan ddaw’r Bwrdd i rym yn gyfreithiol. 3.2 Gofynnodd y Pwyllgor i Swyddfa Archwilio Cymru gyflwyno
sesiwn i’r Pwyllgor i esbonio’i chyfrifon, ei hamcangyfrifon a’i chyfraddau. |
|
(10:15) |
Cyfarfodydd preifat – y Pwyllgor Cyllid Eitemau 5, 6 a 7 Cofnodion: 4.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(10:15-10:30) |
Swyddfa Archwilio Cymru – Memorandwm Dealltwriaeth ar gyfer Swyddog Cyfrifyddu FIN(4)-05-14 (papur 2) Cofnodion: 5.1 Cytunwyd ar y Memorandwm Dealltwriaeth drafft a nododd y
Pwyllgor y caiff ei gyhoeddi ar 1 Ebrill. 5.2 Cytunodd y Pwyllgor y dylai Archwilydd Cyffredinol Cymru
weld copi drafft cyn y caiff ei ddefnyddio. |
|
(10:30-11:00) |
Ymchwiliad i arfer da o ran y gyllideb: ystyried y cylch gorchwyl FIN(4)-05-14 (papur 3) Cofnodion: 6.1 Trafododd yr Aelodau’r cylch gorchwyl arfaethedig gan
gytuno y byddai’n well ganddynt gynnal yr ymchwiliad mewn dwy ran. Derbyniwyd y
cylch gorchwyl a’r dull o gasglu tystiolaeth a bydd y Pwyllgor yn ystyried
cyngor y cynghorydd arbenigol mewn cyfarfod arall. |
|
(11:00-11:30) |
Cyllido Addysg Uwch: ystyried y prif faterion FIN(4)-05-14 (papur 4) Cofnodion: 7.1 Trafododd y Pwyllgor y prif faterion. Bydd y clercod yn
paratoi adroddiad drafft i’w drafod ar ôl toriad y Pasg. |