Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Davies 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09:00)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

1.2     Ni chafwyd ymddiheuriadau. Roedd Kirsty Williams yn dirprwyo ar ran Peter Black am ran o’r cyfarfod.

 

(09:00-09:05)

2.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1     Cafodd y papurau eu nodi.

 

(09:05)

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:

Eitemau 4, 5, 6, 7, 8, 10, 12 ac Eitemau 1 a 2 ddydd Iau 5 Mawrth

 

Cofnodion:

3.1     Derbyniwyd y cynnig.

 

(09:05-09:25)

4.

Arferion Gorau o ran y Gyllideb: Ystyried yr Adroddiad Drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1     Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad drafft ar Arferion Gorau o ran y Gyllideb Rhan 2, a chytunwyd ar nifer fach o newidiadau.

 

(09:25-09:30)

5.

Penodi Aelodau anweithredol Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1     Cytunodd y Pwyllgor ar benodiad Lindsay Foyster fel Aelod anweithredol ar Fwrdd Swyddfa Archwilio Cymru o dan Reol Sefydlog 18.10(v).

 

(09:30-09:40)

6.

Ystyriaeth gychwynnol o’r Bil Rhenti Cartrefi (Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1     Ystyriodd y Pwyllgor oblygiadau ariannol y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru).

 

(09:40-09:50)

7.

Amcangyfrif Atodol Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer 2014-15

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1     Ystyriodd y Pwyllgor Amcangyfrif Atodol Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer 2014-15.

 

(09:50-10:00)

8.

Cyllideb Atodol Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2014-15

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1     Ystyriodd y Pwyllgor Gyllideb Atodol Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2014-15.

 

(10:00-11:00)

9.

Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2014-15

Jane Hutt AC, y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth

Gawain Evans, Dirprwy Gyfarwyddwr Rheoli Ariannol, Llywodraeth Cymru

Matt Denham-Jones, Pennaeth Rheoli a Chofnodi Cyllidebau, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1     Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Jane Hutt AC, y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth, Gawain Evans, Dirprwy Gyfarwyddwr Rheolaethau Ariannol, Llywodraeth Cymru a Matt Denham-Jones, Pennaeth Rheoli ac Adrodd Cyllidebol, Llywodraeth Cymru.

 

9.2     Cytunodd y Gweinidog i ddarparu’r canlynol:

·         Cadarnhad os yw’r holl gynlluniau tair blynedd a gyflwynwyd gan fyrddau iechyd wedi cael eu cytuno.

·         Darparu gwybodaeth am y diogelwch a gynigir i’r gyllideb llywodraeth leol.

 

(11:00-11:15)

10.

Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2014-15: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

10.1   Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(11:15-12:15)

11.

Ystyried pwerau: Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: Sesiwn dystiolaeth 4

Lyn Cadwallader, Prif Weithredwr Un Llais Cymru

Steve Thomas, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Daniel Hurford, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

11.1   Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Daniel Hurford, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Lyn Cadwallader, Cyfarwyddwr, Un Llais Cymru ar gyfer ei ymchwiliad.

 

11.2     Cytunodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ddarparu gwybodaeth am y ffyrdd y mae awdurdodau lleol yn derbyn cwynion.

 

 

(12:15-12:30)

12.

Ystyried pwerau: Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru - trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

12.1   Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.