Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bethan Davies
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(08:30-09:00) |
Ystyried Pwerau: Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: Ystyried yr Adroddiad Drafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: 1.1
Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft ar Ystyried Pwerau: Ombwdsmon
Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a chytunodd ar ychydig o newidiadau. |
|
(09:00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. 2.2 Cafwyd
ymddiheuriadau gan Alun Ffred Jones. |
|
(09:00-09:05) |
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Cafodd y
papurau eu nodi. |
|
(09:05-10:00) |
Casglu a Rheoli Trethi Datganoledig yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 3 Eleanor Emberson, Prif Weithredwr, Cyllid yr Alban Dr Keith Nicholson, Cadeirydd, Cyllid yr Alban Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Clywodd
y Pwyllgor dystiolaeth gan Eleanor Emberson, Prif Weithredwr Cyllid yr Alban. 4.2
Cytunodd Eleanor Emberson i anfon nodyn gan Dr Keith Nicholson, Cadeirydd Bwrdd
Cyllid yr Alban, yn ei absenoldeb. |
|
(10:00-11:00) |
Casglu a Rheoli Trethi Datganoledig yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 4 Kay Powell,
Cynghorwr Polisi, Cymdeithas y Cyfreithwyr Mark Evans,
Partner, Allington Hughes Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1
Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Kay Powell, Cynghorydd Polisi o Gymdeithas
y Gyfraith, a Mark Evans, Partner yn Allington Hughes. 5.2
Cytunodd Kay Powell i anfon nifer y bobl sy'n gwneud eu trawsgludo eu hunain a
nifer y cyfreithwyr sy'n methu talu treth dir y dreth stamp. |
|
(11:00-12:00) |
Casglu a Rheoli Trethi Datganoledig yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 5 Gerald Holtham Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Clywodd
y Pwyllgor dystiolaeth gan Gerald Holtham. |
|
(12:00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol: Eitemau 8, 9 a 10. Cofnodion: 7.1
Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig. |
|
(12:00-12:15) |
Casglu a Rheoli Trethi Datganoledig yng Nghymru: Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 8.1
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
(12:15-12:20) |
Craffu ar Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2014-15: Trafod ymateb Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 9.1 Nododd
y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru i'r argymhellion yn adroddiad y Pwyllgor ar
yr Ail Gyllideb Atodol ar gyfer 2014-15. |
|
(12:20-12:30) |
Ariannu yn y dyfodol: Dull o Gynnal y Gwaith Craffu Dogfennau ategol: Cofnodion: 10.1
Cytunodd yr Aelodau ar y dull o graffu ar gyfer ymchwiliad y Pwyllgor i Ariannu
yn y dyfodol. |