Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Davies 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

(09.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Alun Ffred Jones AC.

 

(09.00 - 09.05)

2.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

(09.05 - 10.00)

3.

Craffu at Gyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru 2015-2016

Jane Hutt AC, y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth.

Jo Salway, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyllidebu Strategol, Llywodraeth Cymru

Jeff Andrews, Cynghorydd Polisi Arbenigol, Llywodraeth Cymru

 

Papur 1 – Cynnig y Gyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru 2015-2016.

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Jane Hutt AC, y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth;  Matt Denham-Jones, Pennaeth Rheoli a Chofnodi Cyllidebau, Llywodraeth Cymru; a Jeff Andrews, Cynghorydd Polisi Arbenigol.

 

(10.00)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

Eitemau 5, 6, 7, 8 a 9

 

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(10.15 - 10.30)

5.

Craffu ar Gyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru 2015-2016: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(10.30 - 10.45)

6.

Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013: Gohebiaeth gan Gadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru

Papur 2 - Llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid gan Gadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod yr ohebiaeth, a chytunodd i ysgrifennu at Gadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru.

 

(10.45 - 11.00)

7.

Ymchwiliad etifeddiaeth

Papur 3 - Ymchwiliad etifeddiaeth

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Cytunodd y Pwyllgor i gynnal ymchwiliad etifeddiaeth.

 

(11.00 - 11.15)

8.

Bil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru): Ystyried yr amserlen

Papur 4 – Llythyr gan y Llywydd at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod yr amserlen arfaethedig ar gyfer y Bil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru), a bydd yn ysgrifennu at y Llywydd.

 

(11.15 - 11.30)

9.

Perfformiad Corfforaethol Comisiwn y Cynulliad – Ebrill 2014 – Mawrth 2015

Papur 5 – Llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid gan Brif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Eithriodd Peter Black ei hun o’r eitem yn sgîl ei rôl fel Comisiynydd.

 

9.2 Bu’r Pwyllgor yn ystyried yr adroddiad ar Berfformiad Corfforaethol Comisiwn y Cynulliad ar gyfer Ebrill 2014 tan fis Mawrth 2015.

 

9.3 Nododd y Pwyllgor yr adroddiad, a chytunodd i ysgrifennu at Claire Clancy i gael rhagor o wybodaeth.