Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Davies 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

(09.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Mike Hedges AC.

 

(09.00 - 09.05)

2.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

(09.05 - 10.00)

3.

Ariannu yn y dyfodol: Sesiwn dystiolaeth 4

Jane Hutt AC, y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth

Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr y Trysorlys, Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol, Llywodraeth Cymru

Ed Sherriff, Pennaeth Strategaeth Cyllidol, Llywodraeth Cymru

Jeff Andrews, Cynghorydd Polisi Arbenigol, Llywodraeth Cymru

 

Papur 1 – Ymateb Llywodraeth Cymru i'r ymgynghoriad

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Jane Hutt AC, y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth, Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr Trysorlys, Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol, Ed Sherriff, Pennaeth Strategaeth Ariannol, a Jeff Andrews, Cynghorydd Polisi Arbenigol.

 

3.2 Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth i gael rhagor o wybodaeth.

 

(10.00)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

Eitemau 5, 6 a 7

 

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(10.00 - 10.15)

5.

Ariannu yn y dyfodol: Trafod y dystiolaeth

Papur 2 – Llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid gan Brif Ysgrifennydd y Trysorlys

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a ddaeth i law, a chytunwyd i ysgrifennu at Brif Ysgrifennydd y Trysorlys a gwahodd rhagor o dystion ar gyfer sesiynau tystiolaeth lafar yn nhymor yr hydref.

 

(10.15 - 12.15)

6.

Y Bil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru): Sesiwn friffio ffeithiol gan Lywodraeth Cymru

Cofnodion:

6.1 Fe wnaeth swyddogion Llywodraeth Cymru friffio'r Pwyllgor ar y Bil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru).

 

(12.15 - 12.30)

7.

Y Bil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru): Trafod y sesiwn friffio:

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth a gafwyd.