Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Davies 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 280KB) Gweld fel HTML (299KB)

 

(09.00)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2 Ni chafwyd ymddiheuriadau.

(09.00 - 11.00)

2.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17: Sesiwn dystiolaeth 6

Jane Hutt AC – Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth

Jo Salway – Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllidebu Strategol, Llywodraeth Cymru

Jeff Andrews – Cynghorydd Polisi Arbenigol, Llywodraeth Cymru

 

Briff y Gwasanaeth Ymchwil

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan: Jane Hutt AC - y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth; Jo Salway - Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyllidebu Strategol, Llywodraeth Cymru; a Jeff Andrews - Cynghorydd Polisi Arbenigol, Llywodraeth Cymru ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17.

2.2 Datganodd Peter Black AC fuddiannau perthnasol o dan Reol Sefydlog 17.24A:

(11.00)

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:

Eitemau 4, 5 a 6 o gyfarfod heddiw ac eitem 1 o’r cyfarfod ar 28 Ionawr 2016.

Cofnodion:

3.1 Derbyniwyd y cynnig.

(11.10 - 11.40)

4.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

(11.40 - 11.50)

5.

Gweithredu Deddf Cymru 2014

Papur 1 – Adroddiad Llywodraeth Cymru ar Ddeddf Cymru 2014 – Rhagfyr 2015

Papur 2 – Adroddiad Llywodraeth y DU ar Ddeddf Cymru 2014 – Rhagfyr 2015

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Nododd y Pwyllgor yr adroddiadau.

5.2 Cytunodd y Pwyllgor i wahodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar ran Llywodraeth y DU, a'r Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth ar ran Llywodraeth Cymru, i gyfarfod y Pwyllgor i drafod yr adroddiadau.

(11.50 - 12.00)

6.

Adroddiad Comisiwn y Cynulliad ar Berfformiad Corfforaethol: Ebrill 2015 - Medi 2015

Papur 3 – Llythyr gan Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc Cynulliad Cenedlaethol Cymru – 9 Rhagfyr 2015

Papur 4 – Adroddiad ar Berfformiad Corfforaethol Comisiwn y Cynulliad: Ebrill 2015 i Fedi 2015 – Rhagfyr 2015

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Nododd y Pwyllgor yr adroddiad.