Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bethan Davies
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad
o’r cyfarfod (PDF 150KB) Gweld
fel HTML (143KB) |
||
(09.00) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. 1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Alun Ffred Jones AC. |
|
(09.00) |
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Cafodd y papurau eu nodi. |
|
(09.00 - 10.00) |
Ymchwiliad etifeddiaeth: Sesiwn dystiolaeth Syr Derek Jones – Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru Marion Stapleton – Pennaeth Uned Gyflawni'r Prif Weinidog a'r Rhaglen
Ddeddfwriaethol a'r Uned Lywodraethu, Llywodraeth Cymru Andrew Hobden – Economegydd, Llywodraeth Cymru Papur 1 – Papur gan yr Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru – 20 Ionawr
2016 Papur 2 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth – 25
Tachwedd 2015 Papur 3 – Papur gan yr Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru – 26
Tachwedd 2015 Briff ymchwil Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan: Syr Derek Jones –
Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru; Marion Stapleton – Pennaeth Uned
Gyflawni'r Prif Weinidog a'r Rhaglen Ddeddfwriaethol a'r Uned Lywodraethu, Llywodraeth
Cymru; a Andrew Hobden – Economegydd, Llywodraeth Cymru, ynghylch yr Asesiadau
Effaith Rheoleiddiol a gynhyrchwyd gan Lywodraeth Cymru yn ystod y Pedwerydd
Cynulliad fel rhan o’i ymchwiliad etifeddiaeth. |
|
(10.00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol: Eitemau 5, 6 a 7. Cofnodion: 4.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(10.10 - 10.30) |
Ymchwiliad etifeddiaeth: Ystyried y dystiolaeth Cofnodion: 5.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
(10.30 - 10.50) |
Ymchwiliad ariannu yn y dyfodol: Ystyried yr adroddiad drafft Papur 4 – adroddiad drafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Adolygodd y Pwyllgor yr adroddiad a bydd yn ei
ystyried ymhellach yn ystod y cyfarfod nesaf. |
|
(10.50 - 11.30) |
Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) drafft Ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad Papur 5 – Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cymunedau,
Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol – 15 Rhagfyr 2015 Briff cyfreithiol Briff ymchwil Ymatebion i’r ymgynghoriad Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1 Ystyriodd y Pwyllgor yr ymatebion dderbyniwyd i’r
ymgynghoriad a penderfynodd i ddiwygio’r Bil drafft yn sgil yr ymateb i’r
ymgynghoriad. |