Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Cyswllt: Polisi: Tom Jackson Legislation: Sarah Beasley
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(9:00 - 9:05) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Eitemau 3, 4, 5 a
7. Cofnodion: Eitemau 3,4, 5 a
7. |
||
(9:05 - 9:30) |
Ystyried Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru) Cofnodion: 3.1 Cytunodd y
Pwyllgor ar ei gylch gorchwyl a’i ddull o graffu ar Fil Archwilio Cyhoeddus
(Cymru) a chytunodd i lansio ymgynghoriad cyhoeddus yn fuan. |
|
(9:30 - 9:35) |
Ystyried yr adroddiad drafft 'Rheoli Grantiau yng Nghymru' Cofnodion: 4.1 Trafododd y
Pwyllgor newidiadau i’w adroddiad drafft ‘Rheoli Grantiau yng Nghymru’, a
fyddai’n cael ei gyhoeddi’n fuan, a chytunodd ar y newidiadau hynny. |
|
(9:35 - 10:00) |
Trafod yr adroddiad drafft 'Cynnydd o ran cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru' Cofnodion: 5.1 Trafododd y
Pwyllgor adroddiad i’r ymchwiliad, ‘Cynnydd o ran cyrraedd Safon Ansawdd Tai
Cymru’, a fyddai’n cael ei ystyried ymhellach dros e-bost, a chytunodd ar yr
adroddiad. |
|
(10:00 - 10:30) |
Sesiwn Friffio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru 'Cyllid Iechyd' PAC(4) 16-12 – Papur 1 – Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ‘Cyllid Iechyd’ Dogfennau ategol: Cofnodion: 6.1 Gwahoddodd y
Cadeirydd Archwilydd Cyffredinol Cymru (ynghyd â Gillian Body, Archwilydd
Cyffredinol Cynorthwyol, a Matthew Coe, Rheolwr Archwilio Ariannol) i roi briff
i’r Pwyllgor ar adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ‘Cyllid Iechyd.’ 6.2 Cyflwynodd yr
Archwilydd Cyffredinol friff i’r Pwyllgor ar y prif faterion sy’n codi o’i
adroddiad ac atebodd gwestiynau’r Aelodau. Camau i’w cymryd: Cytunodd yr
Archwilydd Cyffredinol i ddarparu: ·
Nodyn yn dweud pryd cafodd Byrddau
Iechyd Lleol gynnig broceriaeth gan Lywodraeth Cymru. |
|
(10:30 - 10:45) |
Opsiynau ar gyfer ymdrin ag adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru 'Cyllid Iechyd' Cofnodion: 7.1 Cytunodd y Pwyllgor
i gynnal ymchwiliad i Gyllid Iechyd. |
|
Papurau i'w nodi PAC(4) 16-12 –
Papur 2 – Gohebiaeth gan Drysorlys EM ynghylch Cynnydd ar gyflawni Safon
Ansawdd Tai Cymru PAC(4) 16-12 –
Papur 3 – Gohebiaeth gan Lywodraeth Cymru ynghylch Cynnydd ar gyflawni Safon
Ansawdd Tai Cymru PAC(4) 16-12 – Papur 4 – National Audit Office report Cofnodion y
cyfarfod blaenorol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 8.1 Nododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ar Safon Ansawdd Tai Cymru. 8.2 Cadarnhaodd y
Pwyllgor gofnodion y cyfarfod ar 10 Gorffennaf 2012. |
||
Trawsgrifiad |