Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Polisi: Tom Jackson Legislation: Sarah Beasley
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(13:30 - 13:35) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Anfonodd y Cadeirydd ei
ymddiheuriadau am fethu dechrau'r cyfarfod. Gofynnodd y Clerc am enwebiadau i
benodi Cadeirydd dros dro o dan Reol Sefydlog 17.22. Enwebwyd Jocelyn Davies
gan Jenny Rathbone, ac fe’i penodwyd nes i'r Cadeirydd gyrraedd. 1.2 Croesawodd y Cadeirydd
Dros Dro yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod. 1.3 Cafwyd ymddiheuriadau gan
Julie Morgan a oedd wedi datgan buddiant yn yr eitem ar broses gaffael
Llywodraeth Cymru a’r camau a gymerwyd ganddi i waredu hen Westy River Lodge,
gan mai ei gŵr oedd y Prif Weinidog ar y pryd. |
|
(13:35 - 16:00) |
Proses gaffael Llywodraeth Cymru a’r camau a gymerwyd ganddi i waredu hen westy River Lodge, Llangollen Llywodraeth Cymru (13.35 – 14.00) David Richards, Cyfarwyddwr Llywodraethu Arwel Thomas, Dirprwy Gyfarwyddwr, yr Is-adran Llywodraethu Corfforaethol a Sicrwydd Drwy Gynhadledd Fideo:
Karen Sinclair, Cyn Aelod Cynulliad
(14.00 – 14.40) Ieuan Wyn Jones AC, Cyn Weinidog dros
yr Economi a Thrafnidiaeth (14.40 – 15.20) Andrew Davies, Cyn Weinidog dros
Fenter, Arloesi a Rhwydweithiau (15:20 – 16:00) Cofnodion: Llywodraeth Cymru 2.1 Croesawodd y Cadeirydd
dros dro David Richards, Cyfarwyddwr Llywodraethu, Llywodraeth Cymru; ac Arwel
Thomas, Dirprwy Gyfarwyddwr, yr Is-adran Llywodraethu Corfforaethol a Sicrwydd,
i'r cyfarfod. 2.2 Bu'r Pwyllgor yn holi'r
tystion. Cam Gweithredu: Gofynnwyd i Lywodraeth Cymru
ddarparu: ·
Rhagor o
wybodaeth am gofrestr datganiadau o fuddiant Llywodraeth Cymru, gan gynnwys pa
ddatganiadau a fyddai'n cael eu hystyried yn risg posibl. Karen Sinclair (drwy
Gynhadledd Fideo) 2.3 Croesawodd y Cadeirydd
Karen Sinclair, y cyn Aelod Cynulliad, i'r cyfarfod. 2.4 Bu'r Pwyllgor yn holi'r
tyst. Ieuan Wyn Jones AC 2.5 Croesawodd y Cadeirydd
Ieuan Wyn Jones AC, y cyn Weinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, i'r
cyfarfod. 2.6 Bu'r Pwyllgor yn holi'r
tyst. Andrew Davies 2.7 Croesawodd y Cadeirydd
Andrew Davies, y cyn Weinidog dros Fenter, Arloesi a Rhwydweithiau, i'r
cyfarfod. 2.8 Bu'r Pwyllgor yn holi'r
tyst. |
|
Papurau i'w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Nododd y Pwyllgor
gofnodion y cyfarfod blaenorol. |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Eitemau 5 a 6. Cofnodion: Eitemau 5 a 6. |
||
(16:00 - 16:20) |
Ystyried y dystiolaeth ar broses gaffael Llywodraeth Cymru a’r camau a gymerwyd ganddi i waredu hen westy River Lodge, Llangollen Cofnodion: 5.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod y
dystiolaeth a gafwyd ar broses gaffael Llywodraeth Cymru a’r camau a gymerwyd
ganddi i waredu hen Westy River Lodge, Llangollen. |
|
(16:20 - 17:30) |
Y Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru): Cyfnod 1 - Ystyried yr adroddiad drafft Cofnodion: 6.1 Trafoddodd y Pwyllgor ei
adroddiad drafft ar y Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru). |
|
Trawsgrifiad |