Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Cyswllt: Polisi: Tom Jackson Legislation: Sarah Beasley
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(9:00 - 9:05) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelodau ac aelodau’r cyhoedd i’r cyfarfod. 1.2 Croesawodd y
Cadeirydd Jocelyn Davies fel Aelod newydd i’r Pwyllgor a diolch i Lindsay
Whittle am ei gyfraniad. |
|
Papurau i'w nodi Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Nododd y
Pwyllgor: -
ymateb
Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig i’r ymgynghoriad ar Fil Archwilio
Cyhoeddus (Cymru); -
ymateb
Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar gynnydd Llywodraeth Cymru o ran rhoi Safon
Ansawdd Tai Cymru ar waith; -
yr
ohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ am Fil
Archwilio Cyhoeddus (Cymru); -
yr ohebiaeth
gan Bwyllgor yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd am ei adroddiad byr ar warchod
Arfordirol; -
yr
ohebiaeth ar amcangyfrifon diwygiedig yr Archwilydd Cyffredinol ar gyfer y
flwyddyn a ddaw i ben ar 31 Mawrth 2014. |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Eitemau 4 a 5. Cofnodion: 3.1 Derbyniwyd y
cynnig. |
||
(9:05 - 10:00) |
Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru): Cyfnod 1 - themâu allweddol a materion sy'n dod i'r amlwg Cofnodion: 4.1 Ystyriodd y
Pwyllgor y themâu allweddol a’r materion a ddaeth i’r amlwg yn ystod y gwaith
craffu ar Fil Archwilio Cyhoeddus (Cymru). |
|
(10:00 - 11:00) |
Ystyried yr adroddiad drafft ar yr amcangyfrif atodol o incwm a gwariant Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer y flwyddyn a ddaw i ben ar 31 Mawrth 2014 Cofnodion: 5.1 Trafododd y
Pwyllgor ei adroddiad ar amcangyfrif incwm a gwariant swyddfa Archwilydd
Cyffredinol Cymru ar gyfer y flwyddyn a ddaw i ben ar 31 Mawrth 2014 a chytuno
arno, a fydd yn cael ei gyhoeddi’n fuan. |
|
Trawsgrifiad |