Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Cyswllt: Fay Buckle
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.00-09.15) |
Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 1.1 Ystyriodd Aelodau y dystiolaeth a gafwyd yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar
13 Hydref. |
|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad
o’r cyfarfod (PDF 285KB) Gweld
fel HTML (403KB) |
||
(09:15) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 2.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. 2.2
Cafwyd ymddiheuriadau gan Mohammad Asghar. Dirprwyodd Andrew R T Davies ar ei
ran. 2.3
Esgusododd Jocelyn Davies ei hun o dan Reol Sefydlog 18.8. Dirprwyodd Alun
Ffred Jones ar ei rhan. 2.4 Mae’r
datganiadau o ddiddordeb a wnaed yn y cyfarfod ar 12 Hydref yn berthnasol i’r
cyfarfod hwn. |
|
(09.15-09.20) |
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1
Nodwyd y papurau. |
|
Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio: Llythyr gan James Price, Llywodraeth Cymru (12 Hydref 2015) Dogfennau ategol: |
||
(09.20-10.45) |
Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio: Sesiwn dystiolaeth 5 PAC(4)-28-15 Papur 1 PAC(4)-28-15 Papur 2 Papur
Briffio’r Gwasanaeth Ymchwil Jeremy Green - Lambert Smith Hampton Ltd Lee Mogridge - Lambert Smith Hampton Ltd Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Craffodd y Pwyllgor ar waith Jeremy Green a Lee Mogridge o Lambert
Smith Hampton Ltd fel rhan o’r ymchwiliad i Gronfa Buddsoddi Cymru mewn
Adfywio. 4.2 Cytunodd Jeremy Green a Lee Mogridge i anfon y wybodaeth a ganlyn at y
Pwyllgor: · Gwirio a
chadarnhau’r dyddiadau y gwnaethant gyfarfod â swyddogion cynllunio o Gyngor
Dinas Caerdydd a Chyngor Sir Fynwy a chyflwyno unrhyw ohebiaeth berthnasol; ·Gwirio a
gafodd yr holl ddiddordeb a ddangoswyd gan brynwyr posibl ei gyfleu i Fwrdd
CBCA ac yn benodol y diddordeb a ddangoswyd gan Legat Owen, a phryd y gwnaed
hynny; ·Manylion y
cyfarfodydd a gynhaliwyd gyda’r prynwr arfaethedig rhwng mis Chwefror 2011 a
mis Mawrth 2012; ·Gwiriwch pryd
y sefydlwyd perthynas gyda Mr Langley Davies, pwy o LSH oedd yn gweithredu ar
ei ran ac ym mha swyddogaeth ac ar ba brosiectau eraill (lle y mae’n
Gyfarwyddwr); ·Darparu e-byst
a gohebiaeth arall gyda’r prynwr posibl pan awgrymodd y prynwr y byddai’n
niweidiol i’w fuddiannau ac y gallai ragfarnu’r trafodion portffolio pe
byddai’n cael ei orfodi i gynnal prisiad ffurfiol, ac · Egluro pryd
ddechreuodd LSH farchnata safle Trefynwy ar gyfer SWLD. |
|
(10.45) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol: Eitem 6 ac eitem 1 yng nghyfarfod 3 Tachwedd 2015 Cofnodion: 5.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(10.45-11.00) |
Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 6.1 Oherwydd cyfyngiadau amser, nis cyrhaeddwyd yr eitem hon. |